Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Ynghylch y cwrs hwn
Mae Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig yn bwnc delfrydol ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno bod yn Bensaer, Syrfëwr Adeiladu, Rheolwr Adeiladu, Peiriannydd Sifil, Syrfëwr Meintiau neu ddilyn unrhyw lwybr gyrfa broffesiynol arall yn y sector.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae’r rhaglen hon wedi cael ei dylunio i feithrin ar y wybodaeth sydd gennych yn barod gan roi sylfaen i chi adeiladu gyrfa eich dyfodol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys ystod eang o feysydd pwnc a chyfuniad o unedau gorfodol a dewisol, gan gynnwys;
- Adeiladu a Thechnoleg
- Cyfrifoldebau Cyfreithiol a Statudol
- Cyfrifoldebau Cyfreithiol a Statudol mewn Adeiladu
- Mesur ac Amcangyfrif
- Tirfesur, Mesur, a Gosod
Bydd yn eich darparu gyda chymhwyster cydnabyddedig a fydd yn rhoi llwyfan ar gyfer cwblhau eich gradd, a chafodd ei dylunio er mwyn bodloni gofynion nifer o gyrff proffesiynol, megis –
- Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)
- Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB)
- Sefydliad Peirianwyr Sifil (ICE)
- Sefydliad Peirianwyr Strwythurol (IStructE)
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Cwrs Rhan Amser : £0.00
Gofynion mynediad
I'w gadarnhau
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu