Addysg Gorfforol - Lefel A Llwybr Carlam
Ynghylch y cwrs hwn
Mae'r cwrs Safon Uwch Addysg Gorfforol hwn yn gwrs blwyddyn o hyd a ddylai gael ei ddilyn ochr yn ochr â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru.
Gall fod yn bosibl i ymgymryd â'r cwrs hwn fel myfyriwr rhan amser.
Mae hwn yn gwrs Carlam, sy’n golygu y byddwch yn cwblhau’r unedau UG ac A2 o fewn blwyddyn yn hytrach na dros 2 flynedd.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae’r cynnwys UG yn ymwneud â’r canlynol:
- Datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol a dealltwriaeth o'r ffactorau sy’n sail i weithgaredd corfforol a chwaraeon a defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn gwella perfformiad.
- Deall sut mae cyflyrau ffisiolegol a seicolegol yn cael effaith ar berfformiad.
- Deall y ffactorau cymdeithasol a diwylliannol sy’n effeithio ar ymgysylltiad pobl ag ymarfer corff a chwaraeon.
- Deall rôl technoleg mewn ymarfer corff a chwaraeon.
- Rhoi sglein ar eu gallu i berfformio’n effeithiol mewn ymarfer corff a chwaraeon drwy ddatblygu sgiliau a thechnegau a dewis a defnyddio tactegau, strategaethau a/neu syniadau cyfansoddol.
- Datblygu eu gallu i ddadansoddi a gwerthuso er mwyn gwella perfformiad.
- Deall cyfraniad gweithgaredd corfforol i iechyd a ffitrwydd.
- Gwella fel dysgwyr effeithiol ac annibynnol ac fel meddylwyr critigol a myfyriol gyda meddyliau chwilfrydig a holgar.
Mae asesiad ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf; asesiad ymarferol fel perfformiwr, hyfforddwr a swyddog mewn un maes chwaraeon, cynhyrchiad proffil perfformiad personol.
Mae’r Cynnwys A2 yn ymwneud â’r canlynol:
A2 Uned 3: Gwerthuso ymarfer corff
Arholiad ysgrifenedig: 2 awr; 36% o’r cymhwyster
A2 Uned 4: Gwella perfformiad personol mewn Addysg Gorfforol
Asesiad di-arholiad; 24% o’r cymhwyster
Asesir perfformiad ymarferol mewn un gweithgaredd fel chwaraewr/perfformiwr, hyfforddwr neu swyddog ac ymchwil archwiliadol hefyd.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cofrestru rhan amser: £0.00
Gofynion mynediad
Mae’r gofynion mynediad canlynol yn berthnasol i Lwybrau Safon Uwch: Ysgolheigion 4 Safon Uwch gyda Chymhwyster Prosiect Estynedig: 9 TGAU A*-C, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith, YN OGYSTAL Â 5 gradd A*-A, 3 Safon Uwch gyda Bagloriaeth Cymru: 8 TGAU A*-C, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith, YN OGYSTAL Â 5 gradd A*-B, 2 Safon Uwch ac 1 Tystysgrif Estynedig BTEC gyda Bagloriaeth Cymru: 8 TGAU A*-C, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith, YN OGYSTAL Â 3 gradd A*-B, 2 Safon Uwch gyda Bagloriaeth Cymru: 6 TGAU A*-C, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith, YN OGYSTAL AG 1 gradd A*-B, 1 Lefel UG gydag 1 Tystysgrif Estynedig BTEC neu 2 Dystysgrif Estynedig BTEC gyda Bagloriaeth Cymru: 5 TGAU A*-C, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith, Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol Mathemateg o leiaf: C Saesneg Iaith, o leiaf: C Gofynion Eraill: C mewn Bioleg Uwch, neu BB yn y Dyfarniad Dwbl neu B mewn TGAU Mae Hyfforddi Addysg Gorfforol, perfformiad ymarferol a phroffiliau perfformiad yn cyfrannu 40% tuag at Safon Uwch Addysg Gorfforol. Am y rheswm hwn mae’n hanfodol bod dysgwyr yn cymryd rhan weithredol mewn o leiaf un gweithgaredd chwaraeon.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
"Rwyf wrth fy modd yn astudio fy nghwrs yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae'n gymaint o sbort! Mae'r annibyniaeth a'r rhyddid rydych chi'n eu cael yn wych A chewch eich tri fel oedolyn. Rwyf wrth fy modd. Yn y coleg, mae'n debyg fy mod wedi mwynhau'r perthnasaoedd clos sydd gennyf gyda fy athrawen. Rwyf wirioneddol yn teimlo y gallaf droi at fy athrawon gydag unrhyw broblemau yr wyf yn eu cael ac y byddant yn fy helpi i weithio dryddynt."
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae’r mwyafrif o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Rheoli Busnes
- Gwasanaethau Cyhoeddus
- Chwaraeon
- Teithio a Thwristiaeth
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu