Hanes - UG
Ynghylch y cwrs hwn
Mae’r rhaglen Hanes Safon UG yn gwrs astudio.
Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae’r cymhwyster hwn yn cynnig cyfle i ddysgwyr ddatblygu ac ymarfer sgiliau hanesydd, gan drafod meysydd astudio eang iawn.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Fel rhan o'r cwrs, ymdrinnir â'r meysydd canlynol:
Uned 1:
Llywodraeth, Gwrthryfel a Chymdeithas yng Nghymru a Lloegr c.1485-1603
Bydd myfyrwyr yn ystyried datblygiadau yng Nghymru a Lloegr dros gyfnod eang, gan ystyried pynciau arwyddocaol a'u cysylltiadau, megis:
- Arwyddocâd y prif newidiadau mewn gwleidyddiaeth a llywodraeth 1485 - 1603
- Arwyddocâd y prif ddatblygiadau mewn crefydd 1529 - 1588
- Arwyddocâd y prif brotestiadau a gwrthryfeloedd yn erbyn y brenhinoedd a breninesau Tuduraidd 1509 - 1569
- Hyd a lled y newid economaidd a chymdeithasol yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg
- Y berthynas newidiol rhwng Cymru a Lloegr ar ôl 1530
Uned 2: Yr Almaen: Democratiaeth ac Unbennaeth c.1918-1945
Rhan 1: Weimar a'i heriau c.1918-1933
Drwy ddadansoddi a gwerthuso amrywiaeth o wahanol fathau o ffynonellau cynradd a/neu gyfoes, bydd myfyrwyr yn archwilio:
- Yr heriau oedd yn wynebu gweriniaeth Weimar 1918 - 1923
- Hyd a lled y newid mewn polisi tramor ac economaidd 1924 - 1933
- Y newid yn hynt y blaid Natsïaidd 1924 - 1933
- Argyfwng gweriniaeth Weimar 1929-1933
- Dehongliadau hanesyddol o faterion allweddol o'r cyfnod hwn.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Arholiad : £60.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £30.00
Ffi Cwrs: £400.00
Gofynion mynediad
Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: B mewn TGAU Hanes
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
"Rwyf wrth fy modd yn astudio fy nghwrs yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae'n gymaint o sbort! Mae'r annibyniaeth a'r rhyddid rydych chi'n eu cael yn wych A chewch eich tri fel oedolyn. Rwyf wrth fy modd. Yn y coleg, mae'n debyg fy mod wedi mwynhau'r perthnasaoedd clos sydd gennyf gyda fy athrawen. Rwyf wirioneddol yn teimlo y gallaf droi at fy athrawon gydag unrhyw broblemau yr wyf yn eu cael ac y byddant yn fy helpi i weithio dryddynt."
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Archaeoleg
- Economeg
- Llenyddiaeth Saesneg
- Hanes
- Gwleidyddiaeth
- Athroniaeth
- Cymdeithaseg
- Diwinyddiaeth
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu