Dylunio Graffeg - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 7 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Dylunio Graffig A2 yn dilyn ymlaen o Ddylunio Graffig UG a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae’r cwrs yn trafod y ddwy uned ganlynol:

Uned 3: Ymchwiliad Personol

Gan ddefnyddio sgiliau a ddysgwyd eisoes yn UG, fe’ch anogir i ddatblygu meysydd sydd o ddiddordeb personol i chi yn yr uned hon, o un o bum pwynt cychwyn. Mae’r holl weithiau datblygu ymarferol yn cael eu harddangos mewn llyfr gwaith ymchwil, yn cynnwys dylanwadau cyd-destunol priodol eraill, gwybodaeth ymweliad i oriel a dadansoddiad ysgrifenedig. Yn ystod yr uned hon, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio Adobe Illustrator yn effeithiol i gynhyrchu gwaith graffeg trawiadol.

Asesiad:

Sesiynau beirniadaeth grŵp.
Cyflwyno llyfr gwaith ymchwil a chanlyniad.
Adroddiad ysgrifenedig 1000-3000 gair.

Uned 4: Aseiniad a Osodir yn Allanol

Mae’r uned hon yn gyfle i archwilio briffiau dylunio a osodwyd gan y bwrdd arholi. Byddwch yn cael eich annog i arbrofi gyda nifer o brosesau a deunyddiau i gynhyrchu gwaith llawn dychymyg a gwreiddiol. Cefnogir yr holl waith ymarferol trwy gynhyrchu llyfr gwaith ymchwil yn olrhain datblygiad creadigol a chyd-destunol.

Asesiad:

Sesiynau beirniadaeth grŵp.
Mae'r uned hon yn cynnwys asesiad ymarferol dan oruchwyliaeth o 15 awr.
Cyflwyno llyfr gwaith ymchwil a delweddau terfynol.

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiad ac aseiniad ymarferol

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

7 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F25
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Lefel 3 mewn Celf a Dylunio

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

"Rydw i’n credu bod fy amser i yn CAVC wedi fy helpu i gyrraedd y nodau oedd gen i pan wnes i gais i’r Coleg, Roedd y gefnogaeth a gefais i gan fy athrawon a fy nghyfoedion drwy gydol fy nghyrsiau yn galluogi i mi ddatblygu a llwyddo yn greadigol ac yn academaidd.”

Laurie Powell
Astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Astudiaethau Ffilm, Dylunio Graffeg a Ffotograffiaeth

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Celf
  • Animeiddio
  • Busnes a Rheoli
  • Dylunio Graffeg
  • Ffotograffiaeth

Angen gwybod

Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE