Sixth Form Flex
Ynghylch y cwrs hwn
Mae'r cwrs llawn amser hwn yn rhoi'r cyfle i ail-sefyll un ai Saesneg Iaith neu Fathemateg TGAU, gyfochr â chynnig TGAU ychwanegol, Tystysgrif BTEC Lefel 3 a Bagloriaeth Cymru Lefel 3.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, rhoddir cyfle i ddysgwyr gadw lle ar gymwysterau Safon Uwch, Diploma BTEC Lefel 3 neu Ddiploma Estynedig, yn dibynnu ar berfformiad. Bydd yr opsiynau sydd ar gael yn cefnogi dysgwyr i baratoi ar gyfer astudiaeth academaidd neu alwedigaethol Lefel 3 Llawn Amser.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Darperir yr holl gymwysterau ar Gampws Canol y Ddinas, oni bai am Chwaraeon, sy'n cael ei ddarparu yn y Ganolfan Chwaraeon Rhyngwladol. Mae'n rhaid i ddysgwyr ddewis un pwnc o bob un o'r categorïau canlynol, Ail-sefyll, TGAU a Thystysgrif BTEC Lefel 3.
Ail-sefyll: Dewiswch o un o'r canlynol:
- Mathemateg TGAU
- Saesneg TGAU
TGAU - Dewiswch o un o'r canlynol:
- Cyfrifiadureg - gweler yma
- Llenyddiaeth Saesneg - gweler yma
- Ffilm - gweler yma
- Hanes - gweler yma
- Cymdeithaseg - gweler yma
Tystysgrif Estynedig Lefel BTEC - Dewiswch o un o'r canlynol:
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £0.00
Gofynion mynediad
4 TGAU A*-C yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg Iaith, o leiaf D mewn Mathemateg neu Saesneg Iaith lle na chyflawnwyd C mewn un.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
"Rwyf wrth fy modd yn astudio fy nghwrs yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae'n gymaint o sbort! Mae'r annibyniaeth a'r rhyddid rydych chi'n eu cael yn wych A chewch eich tri fel oedolyn. Rwyf wrth fy modd. Yn y coleg, mae'n debyg fy mod wedi mwynhau'r perthnasaoedd clos sydd gennyf gyda fy athrawen. Rwyf wirioneddol yn teimlo y gallaf droi at fy athrawon gydag unrhyw broblemau yr wyf yn eu cael ac y byddant yn fy helpi i weithio dryddynt."
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Ar ôl cwblhau y cwrs blwyddyn hwn, bydd gan fyfyrwyr nifer o opsiynau o ran dilyniant mewnol yn dibynnu ar ganlyniadau pob cymhwyster. Bydd y rhain yn amrywio o fynd ymlaen i gwblhau 3 cymhwyster Safon Uwch gyda Bagloriaeth Cymru, i ddechrau Diploma Lefel 3 neu Ddiploma Estynedig mewn cwrs galwedigaethol. Yn dibynnu ar yr opsiwn a ddewisir, bydd hyn yn cynnwys blwyddyn neu 2 flynedd ychwanegol o astudio.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu