Llenyddiaeth Saesneg - AL

L3 Lefel 3
Rhan Amser
4 Medi 2024 — 21 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynglŷn â'r cwrs

A ydych chi’n mwynhau bod yn greadigol, meddwl drosoch chi'n hyn, trafod materion cyfoes sy'n gysylltiedig i lenyddiaeth, a datblygu eich syniadau yn ysgrifenedig a thrwy ddarllen? Os felly, yna mae’r cwrs hwn y dewis perffaith i chi! Wedi ei leoli un ein Campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, bydd y rhaglen hon yn archwilio nofelau, dramâu a barddoniaeth yn cynnwys testunau a chyd-destunau ac mae hefyd yn gyfle i ddatblygu darllen ac ysgrifennu creadigol. Mae’r cymhwyster yn cwmpasu Llenyddiaeth Saesneg UG ac A2, felly mae’n bosibl i fyfyrwyr gael cymhwyster Safon Uwch llawn mewn blwyddyn.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Uned 1: Rhyddiaith a Drama
Arholiad llyfr caeedig allanol 2 awr o hyd yn yr haf

Adran A: Ffuglen Ryddiaith cyn 1900 - 20% o'r cymhwyster llawn

Ar gyfer y modiwl hwn byddwch yn astudio'r nofel Jane Eyre gan yr awdur enwog Charlotte Brontë. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddarllen y testun rhyddiaith hwn mewn amrywiaeth o ffyrdd a sut i ymateb yn feirniadol a chreadigol. Bydd myfyrwyr yn defnyddio cysyniadau beirniadol llenyddol gyda dealltwriaeth a gwahaniaethu a byddant yn dechrau nodi ac ystyried sut mae agweddau a gwerthoedd yn cael eu mynegi mewn testunau. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu i ystyried dylanwadau diwylliannol a chyd-destunol ar ddarllenwyr ac awduron.

Adran B: Drama

Ar gyfer y rhan hwn o'r cwrs byddwch yn astudio A Streetcar Named Desire gan Tennessee Williams.  Byddwch yn dysgu sut i ymateb yn feirniadol ac yn greadigol i'r testun drama hwn ac i dynnu ar eich dealltwriaeth o wahanol ddehongliadau wrth ymateb i'r testun hwn a'i werthuso. Bydd myfyrwyr hefyd yn ennill gwybodaeth am sut i ysgrifennu mewn arddull academaidd briodol.

Uned 2: Barddoniaeth ar ôl 1900 - 20% o'r cymhwyster llawn
Arholiad allanol 2 awr o hyd llyfr agored (copi glân) yn yr haf.

Ar gyfer y modiwl hwn, byddwch yn astudio barddoniaeth yr awdur enwog Seamus Heaney, gan gwmpasu amrywiaeth o gerddi o'r casgliad o waith o'r enw Field Work. Byddwch hefyd yn astudio barddoniaeth y bardd o Gymru, Owen Sheers a'i gasgliad o gerddi o'r gyfrol Skirrid Hill. 

Byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi sut mae ystyron yn cael eu siapio mewn testunau barddoniaeth a'r ffyrdd y mae ysgrifenwyr yn addasu strwythur, ffurf ac iaith mewn barddoniaeth er mwyn cael effaith.  Byddwch hefyd yn dysgu sut i nodi ac ystyried sut mae agweddau a gwerthoedd yn cael eu mynegi mewn barddoniaeth, gan dynnu ar eich dealltwriaeth o wahanol ddehongliadau.


A2

Mae Llenyddiaeth Saesneg A2 yn dilyn ymlaen o'r cwrs UG ac yn cynnwys y tri modiwl canlynol:

Uned 3 - Barddoniaeth cyn 1900 a barddoniaeth anghyfarwydd -20% o'r cymhwyster

Y testun barddoniaeth cyn 1900 sy'n cael ei astudio ar gyfer y cwrs hwn yw The Merchant’s Prologue and Tale gan Chaucer. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ymateb i gerddi neu ddarnau nad ydynt wedi'u gosod o'r blaen i'w hastudio fel rhan o'r cwrs mewn ffordd bersonol ac ymgysylltiedig.  Bydd yna arholiad ysgrifenedig 2 awr o hyd.

Uned 4 – Shakespeare – 20% o'r cymhwyster

Y testun gosod ar gyfer yr uned hon yw King Lear gan Shakespeare. Bydd myfyrwyr yn ateb un cwestiwn yn seiliedig ar ddetholiad o'r ddrama ac un cwestiwn o ddewis o ddau ar yr un testun. Bydd yna arholiad ysgrifenedig 2 awr o hyd.

Uned 5 - Astudiaeth Rhyddiaith - 20% o'r cymhwyster

Asesiad heb arholiad: Aseiniad 2,500-3,500 gair

Mae'r pwyslais ar yr uned gwaith cwrs hon ar ddarllen ac ymchwil annibynnol. Dylai myfyrwyr gyflwyno aseiniad 2500-3500 gair yn seiliedig ar ddarllen dau destun rhyddiaith gan wahanol awduron, un wedi'i gyhoeddi cyn 2000 a'r llall wedi'i gyhoeddi ar ôl 2000.  Mae'r testunau posib yn cynnwys: Atonement gan Ian McEwan a Wuthering Heights gan Emily Bronte.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £90.00

Ffi Cwrs: £583.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00

Gofynion mynediad

Isafswm o 5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg. Cyfweliad. Efallai y bydd pynciau unigol yn gofyn am raddau uwch. Efallai y caiff dysgwyr aeddfed heb y cymwysterau hyn eu derbyn ar ôl cyfweliad gyda thiwtor y pwnc.

Addysgu ac Asesu

  • Tri arholiad ysgrifenedig a gwaith cwrs ac asesiad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Medi 2024

Dyddiad gorffen

21 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

ALCC3E01
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Lefel 3 mewn Llenyddiaeth Saesneg

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Rydw i’n bendant yn credu bod y Coleg wedi fy helpu i gyflawni fy nodau. Mae wedi bod yn amgylchedd dysgu cefnogol a gwych. Rydw i wedi mwynhau astudio fy holl gyrsiau yn fawr. Rydw i'n credu ei fod yn amgylchedd braf iawn i astudio ynddo.”

Oscar Griffin
Astudio cyrsiau Safon Uwch yn y Clasuron, Llenyddiaeth Saesneg a Hanes

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Ysgrifennu Creadigol
  • Iaith Saesneg
  • Llenyddiaeth Saesneg
  • Hanes
  • Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
  • Ieithoedd
  • Seicoleg

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE