Dylunio a Thechnoleg (Dylunio Cynnyrch) - UG
Ynghylch y cwrs hwn
Pwrpas Dylunio Cynnyrch yw adnabod problemau a dylunio datrysiadau arloesol a chreadigol. Ymateb i anghenion dynol, syniadaeth, profi prototeipiau, a’u datblygu yn gynnyrch parod i gael eu gweithgynhyrchu a’u gwerthu i gwsmeriaid.
Bydd ystod o brosiectau bach, gweithdai a darlithoedd yn eich galluogi i ymateb yn greadigol a datblygu eich sgiliau er mwyn eich paratoi ar gyfer eich camau nesaf. Ymhlith y pynciau rydym yn ymdrin â hwy yn UG mae:
• Dylunio Cynnyrch Diwydiannol
• Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr
• Meddylfryd Dylunio
• CAD/CAM
• Deunyddiau, Prosesau a Thechnegau
• Prosesau Dylunio a Dulliau Ymchwil
• Damcaniaeth Ddylunio (James Dyson a Bethan Gray)
Beth fyddwch chi’n ei astudio
UG Uned 1: Papur Ysgrifenedig 1
Byddwch yn ymgymryd ag arholiad sy’n cynnwys cymysgedd o gwestiynau wedi’u strwythuro a chwestiynau estynedig yn asesu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o:
• Egwyddorion technegol
• Egwyddorion dylunio a gwneud
• Dadansoddi a gwerthuso penderfyniadau dylunio a materion ehangach mewn Dylunio a Thechnoleg.
AS Uned 2: Tasg Dylunio a Chreu
Mae disgwyl i chi gwblhau un dasg dylunio a chreu, yn seiliedig ar friff o'ch dewis chi. Byddwch yn rhoi neilltuo 40 awr i'r dasg hon. Mae’r meini prawf ar gyfer y dasg hon fel a ganlyn:
• Adnabod ac archwilio posibiliadau dylunio
• Datblygu briff a manyleb ddylunio
• Cynhyrchu a datblygu syniadau dylunio
• Gweithgynhyrchu prototeip
• Dadansoddi a gwerthuso penderfyniadau a phrototeipiau dylunio
Mae gan y coleg Weithdy Dylunio a Thechnoleg a chyfleusterau cyfrifiadur helaeth.
Gweithdy Dylunio a Thechnoleg:
• Amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar gael, yn cynnwys coed, cerdyn, sbwng, plastigau
• Defnydd o offer a chyfarpar proffesiynol, yn cynnwys cylchlif, bythod chwistrellu, torwyr gwifrau poeth.
• Cynhyrchu CAM yn cynnwys argraffwyr 3D, torwyr laser, peiriannau CNC a thorwyr finyl.
Stiwdio Ddylunio a Thechnoleg:
• Cyfrifiaduron Mac
• Meddalwedd CAD yn cynnwys AutoCAD, Fusion 360, Google SketchUp ac Adobe Creative Cloud (Photoshop, Illustrator, InDesign)
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cofrestru rhan amser: £0.00
Gofynion mynediad
Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Mathemateg: B B mewn TGAU D&T
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Mwy...
"Roedd athrawon Coleg Caerdydd a’r Fro a’r cyfleusterau bob amser ar gael i mi a oedd o gymorth mawr yn ystod tymor yr arholiadau, ac fe helpodd fi i ennill y graddau yma.”
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Safon Uwch, mae’r mwyafrif o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
• Dylunio Cynnyrch
• Dylunio Diwydiannol
• Pensaernïaeth
• Dylunio mewnol
• Dylunio Modurol
• Dylunio Dodrefn
• Dylunio 3D
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu