Dawns – A2
Ynghylch y cwrs hwn
Mae Dawns A2 yn gwrs blwyddyn sydd i’w astudio law yn llaw â dau neu dri phwnc arall yn ogystal â Bagloriaeth Cymru. Efallai bod posib i fyfyrwyr rhan amser astudio’r cwrs hwn.
Mae astudio dawns yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu yn gymdeithasol gan annog creadigrwydd, ffitrwydd a lles. Wrth i fyfyrwyr ddod yn berfformwyr, byddant hefyd yn magu hyder, hunan barch a sgiliau gweithio fel tîm.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae’r cwrs Dawns Lefel A yn gofyn i ddisgyblion ddatblygu, arddangos a mynegi gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol, gan ddeall a phrofi:
- sgiliau technegol perfformio
- y broses a’r gelf wrth wraidd dawnslunio
- y berthynas fewnol rhwng creu, arddangos a gwylio/gwerthfawrogi gweithiau dawns
- datblygiad dawns o fewn cyd-destun artistig a diwylliannol
- gweithiau dawns broffesiynol a phwysigrwydd y gweithiau hyn
- Terminoleg benodol y pwnc a’r defnydd ohoni
Bydd gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau yn cael eu datblygu a’u harddangos o fewn perfformiad, dawnslunio ac ymgysylltiad critigol gydag astudiaeth o repertoire broffesiynol o fewn meysydd astudio penodol.
Mae’r astudiaeth o weithiau dawns broffesiynol, o fewn y meysydd astudio, yn hybu’r integreiddiad o ddamcaniaeth ac ymarfer, ac yn sylfaen i agweddau’r myfyrwyr eu hunain at berfformiadau a dawnslunio.
Mae’r meysydd astudio yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr archwilio’r newidiadau allweddol o fewn datblygiad dawns sydd yn gysylltiedig â genre, ac yn galluogi myfyrwyr i arddangos dealltwriaeth gyd-destunol drwy gyfathrebiad ysgrifenedig a pherfformio.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cofrestru rhan amser: £0.00
Gofynion mynediad
Wedi cwblhau rhaglen Uwch Gyfrannol yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol a geirda gan diwtor.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
“O ran y cyfleoedd atgyfnerthu mae'r coleg wedi'u cynnig i mi cefais weithio ar ddwy ffilm fer. Cawsant eu darlledu ar BBC Two roedd hynny'n brofiad gwych. Ac rwyf hefyd wedi cael cymarth yn fy mhroses ymgeisio i fynd i ysgol haf yn ninas efrog newydd, lle byddaf yn astudio blwyddyn nesaf am ddau fis sy'n wallgof.”
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Celf
- Coreograffi
- Dawns
- Drama
- Chwaraeon
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu