Cyfrifiadureg - A2
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r rhaglen Cyfrifiadureg A2 yn dilyn ymlaen o Gyfrifiadureg UG a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Mae’r fanyleb yn hyrwyddo astudio integredig o gyfrifiadureg, a bydd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ystod eang o sgiliau ym meysydd rhaglennu, datblygiad system, pensaernïaeth gyfrifiadurol, data, cyfathrebu a rhaglenni.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Yn ystod y cwrs, fe drafodir y meysydd canlynol:
- Uned 3: Rhaglennu a Datblygu System
Arholiad ysgrifenedig: 2 awr, 20% o’r cymhwyster.
Mae’r uned hon yn ymchwilio i raglenni, strwythurau data, algorithmau, rhesymeg, methodolegau rhaglennu ac effaith cyfrifiadureg ar gymdeithas.
- Uned 4: Pensaernïaeth Gyfrifiadurol, Data, Cyfathrebu a Rhaglenni
Arholiad ysgrifenedig: 2 awr, 20% o’r cymhwyster.
Mae’r uned hon yn ymchwilio pensaernïaeth gyfrifiadurol, cyfathrebu, cynrychiolaeth data, trefniadaeth a strwythur data, rhaglennu, algorithmau a phecynnau meddalwedd.
- Uned 5: Datrysiad Rhaglennog i Broblem
Asesiad nad yw’n arholiad, 20% o’r cymhwyster.
Ymgeiswyr i drafod, ymchwilio, cynllunio, creu prototeip, coethi a gweithredu, profi a gwerthuso datrysiad cyfrifiadurol i broblem a ddewiswyd gan yr ymgeisydd y mae’n rhaid ei datrys yn defnyddio cod gwreiddiol (rhaglennu). Mae hwn yn ddarn arwyddocaol o waith, a gyflawnwyd dros gyfnod estynedig o amser.
Gofynion mynediad
Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.
Addysgu ac Asesu
- Dau arholiad ysgrifenedig ac asesiad
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
"Roedd athrawon Coleg Caerdydd a’r Fro a’r cyfleusterau bob amser ar gael i mi a oedd o gymorth mawr yn ystod tymor yr arholiadau, ac fe helpodd fi i ennill y graddau yma.”
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Cyfrifiadureg
- Seiberddiogelwch
- Economeg
- TGCh
- Mathemateg
- Ffiseg
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu