Peirianneg Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CDP)
Ynghylch y cwrs hwn
Mae'r cwrs wedi ei ddylunio fel llwybr dilyniant i ddysgwyr sydd eisoes wedi cwblhau'r Dyfarniad Lefel 2 Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur 2D ac i ymgeiswyr sydd â phrofiad CAD 2D ac sy'n dymuno datblygu sgiliau mewn graffeg 3D a darluniadau technegol a ddefnyddir mewn peirianneg, dylunio a gweithgynhyrchu.
Bydd yr uned hon yn caniatáu myfyrwyr i ddatblygu'r gallu i gymhwyso'r gweithdrefnau drafftio sydd eu hangen i greu ac addasu gwrthrychau; arwynebau neu solidau 3D sy'n bodoli eisoes mewn Gofod Tri Dimensiwn.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut i:
- Ddefnyddio gweithfan CAD yn ddiogel
- Gosod yr amgylchedd modelu 3D
- Creu a golygu modelau arwyneb 3D
- Creu a golygu modelau solid 3D
- Creu gorchmynion i greu model 3D
- Gymhwyso gorchmynion i weld modelau 3D mewn amrywiaeth o fformatau arddangos
- Greu cynllun o ddyluniad model 3D
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cofrestru rhan amser: £0.00
Ffi Cwrs: £0.00
Gofynion mynediad
Wedi cwblhau Cyflwyniad i Beirianneg Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur Lefel 2 neu/a chyfweliad llwyddiannus gydag enghraifft o waith portffolio. Byddai cefndir mewn Dylunio a Pheirianneg yn ddymunol, yn ogystal â mynediad i Gyfrifiadur/Gliniadur gyda digon o gof i lawrlwytho AutoCAD 2020+.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Efallai y bydd dysgwyr am ddatblygu eu sgiliau CAD ymhellach drwy gofrestru ar y rhaglen CAD Awyrofod un flwyddyn lle byddwch yn gallu ennill Tystysgrifau Dylunio Gyda Chymorth Cyfrifiadur Lefel 2 a Lefel 3 City & Guilds drwy gwblhau 2 uned orfodol yn llwyddiannus. Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnwys profiad ymarferol yn yr awyrendy, yn ogystal â drafftio CAD uwch ymhellach a defnyddio offer prototeipio cyflym fel ein peiriannau argraffu 3D stereolithograffi (LFS) sy'n arwain at gymhwyster ychwanegol a gydnabyddir gan y diwydiant Diploma NVQ Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu