Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r ail asesiad nwy (gyda CPA1) y Cynllun Tystysgrif Awdurdodedig (ACS) wedi ei anelu at y rhai sydd wedi ymgymryd â’r asesiad CCN1 o’r blaen ac sy’n dymuno adnewyddu eu tystysgrif diogelwch nwy.
Bydd yn ofynnol i gynrychiolwyr ddarparu tystiolaeth o’u tystysgrif flaenorol er mwyn gallu sefyll yr ail asesiad.
Mae’n rhaid i gynrychiolwyr fod wedi meddu ar eu CCN1 yn y pum mlynedd diwethaf er mwyn gallu sefyll yr ail asesiad. Mae cyfnod o 12 mis ar ôl y pum mlynedd ble gall gynrychiolwyr sefyll yr asesiad, serch hyn mae’n angenrheidiol nad ydynt yn ymarfer ar y pryd.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Mae'r asesiadau yn gyfuniad o waith theori ac ymarferol yn y meysydd canlynol:
- Deddfwriaeth Nwy
- Gweithredoedd a gweithdrefnau
- Hylosgi
- Awyru
- Gosod
- Rheoliadau mesuryddion
- Sefyllfaoedd anniogel ac ynysu mewn argyfwng
- Cyfraddau nwy a phwysedd llosgyddion offer
- Profion Corn Simnai
Ar ôl cwblhau'n llwyddiannus, bydd BPEC Certification Ltd yn llwytho canlyniadau'r asesiadau i fyny i'r Gofrestr Diogelwch Nwy.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU
Dyddiad dechrau
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu