Cyfrifon - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2019 — 12 Mehefin 2020
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Bydd cymhwyster mewn cyfrifeg o hyd yn ddefnyddiol - boed yn cael ei ddefnyddio yn broffesiynol neu'n bersonol. Mae'r cwrs hwn yn helpu myfyrwyr i ddeall cyfrifoldebau cyfrifydd ac effaith eu hargymhellion ar fusnesau a'r amgylchedd ehangach. Bydd myfyrwyr yn meithrin eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gysyniadau, egwyddorion a thechnegau allweddol y gallant eu defnyddio mewn sefyllfaoedd go iawn, a datblygu eu gallu i ddatrys problemau.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Bydd disgwyl i fyfyrwyr arddangos gwybodaeth a dadansoddi a gwerthuso data ariannol yn effeithiol, fel eich bod â'r gallu i wneud beirniadaeth, penderfyniadau ac argymhellion ynghylch sut all busnes reoli ei gyllid.

Mae'n bwysig hefyd bod myfyrwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu eu gallu i ysgrifennu'n effeithiol fel eu bod â'r gallu i adrodd yn ôl i randdeiliaid, gwneud dadleuon rhesymegol a dangos beirniadaeth gadarn wrth gadw mewn cof ffactorau ariannol ac anariannol.

Addysgu ac Asesu

Mae asesiad trwy un arholiad ysgrifenedig

Papur 1:
Arholiad ysgrifenedig: 3 awr. 120 marc. 100% o’r Safon UG

Mae’r arholiad yn cynnwys 3 adran ofynnol:
Adran A: 10 cwestiwn amlddewis a chwestiynau ateb byr (25 marc).
Adran B: 4 cwestiwn strwythuredig (55 marc).
Adran C: 2 gwestiwn ateb estynedig (pob un yn werth 20 marc, mae’r adran yn werth 40 marc).

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £0.00

Gofynion mynediad

Isafswm o 5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg. Cyfweliad. Efallai y bydd pynciau unigol yn gofyn am raddau uwch. Efallai y caiff dysgwyr aeddfed heb y cymwysterau hyn eu derbyn ar ôl cyfweliad gyda thiwtor y pwnc.

Pwyntiau pwysig

  • Mae’r Coleg yn croesawu cyswllt gyda rhieni/gwarcheidwaid myfyrwyr sydd dan 18 oed
  • Mae cefnogaeth atodol ar gael i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu ac anableddau
  • Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn ymroddedig i gynhwysiant ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol y byddwn hyrwyddo cydraddoldeb cyfle ac yn trin pawb yn deg a gyda pharch
  • Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r cwrs yma heb rybudd o flaen llaw
  • Mae’r cyrsiau i gyd yn gywir ar yr adeg y’i huwchlwythir neu wrth fynd i’r wasg
  • Dim ond os oes digon o niferoedd y gellir cynnal cyrsiau
  • Sylwer, os byddwch chi’n dewis tri neu fwy dewis o gwrs, efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio am apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2019

Dyddiad gorffen

12 Mehefin 2020

Amser o'r dydd

Diwrnod/ Amser

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F29
L3

Cymhwyster

AQA Level 3 Advanced Subsidiary GCE in A

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Penderfynais astudio yn y Coleg gan fy mod eisiau teithio a bod yn fwy annibynnol - mae’r campws mor fodern ac yn edrych yn wych. Ar ôl gweld y llyfrgell roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Heb air o gelwydd, y llyfrgell oedd y prif atyniad i mi, roedd yna cymaint o lyfrau yna, roeddwn wrth fy modd. 
Daeth rhywun i siarad â ni am Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd mewn prifysgolion Americanaidd. Gwnes gais i fod yn rhan o’r rhaglen - roedd yn gystadleuol iawn ond cefais fy newis i gymryd rhan. Roeddem yn ymweld â thalaith wahanol bob dydd, a
buom i lawer o wahanol golegau gan gynnwys Princeton a Harvard. Treuliais wythnos hefyd ym Mhrifysgol Warwick ac wythnos ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn brofiad mor dda - roeddwn wrth fy modd. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth yn y Coleg, yn enwedig gan y tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Rwy’n meddwl bod yna lawer mwy o gyfleoedd yma gan ei fod yn goleg mor fawr gyda chymaint o adnoddau.

Charlotte Hall
Yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, y Gyfraith, Seicoleg a Bagloriaeth Cymru

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cefnogaeth Dysgu

Mae ein timau cefnogi ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol, cyllid myfyrwyr a mwy.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE