Mynediad at Wyddorau Iechyd
Ynghylch y cwrs hwn
Cyrsiau dwy flynedd yw cyrsiau Mynediad i Wyddorau Iechyd a gallant arwain at raddau gofal iechyd proffesiynol a graddau gwyddoniaeth mewn prifysgolion, gan gynnwys OxBridge a sefydliadau Grŵp Russell.
Mae'r rhaglen hon yn flwyddyn gyntaf mewn dwy flynedd.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal dros ddwy noson yr wythnos, gyda rhai gweithdai ar ddydd Sadwrn drwy gydol y cwrs.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae Mynediad i Wyddorau Iechyd yn berffaith ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ar hyn o bryd neu sydd ag ymrwymiadau teulu ac sydd eisiau mynd yn ôl i addysg ôl-TGAU. Gallai’r cyrsiau hyn hefyd fod yn addas ar gyfer y rhai hynny sydd â chymwysterau lefel uchel o dramor ac sy’n dymuno astudio ymhellach yn y DU.
Bydd y cwrs yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod o gyrsiau prifysgol, gan gynnwys:
- Ffisiotherapi,
- Ymarferydd Adran Llawdriniaeth (ODP),
- Nyrsio,
- Bydwreigiaeth,
- Therapi Galwedigaethol,
- Podiatreg,
- Gwyddoniaeth Parafeddyg
- Proffesiynau Perthynol i Iechyd
Mae hwn yn gwrs dwys, felly dylai ymgeiswyr fod yn sicr eu bod yn barod ar gyfer y gofynion academaidd yn ogystal â llwyth gwaith y rhaglen. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ennill cymhwyster Diploma Mynediad at Addysg Uwch. Mae hwn yn gymhwyster sy'n cael ei adnabod yn genedlaethol, ac yn cael ei dderbyn ar gyfer mynediad i gyrsiau Addysg Uwch.
Mae'r cwrs yn mynd i'r afael â Bioleg, Cemeg, Seicoleg a Gofal Iechyd fel prif bynciau. Bydd hefyd gofyn ichi astudio Rhifedd, Sgiliau Astudio a Chyfathrebu fel pynciau craidd gorfodol. Mae tiwtorialau personol wythnosol yn cael eu cynnal i gefnogi myfyrwyr gyda'u hastudiaethau.
Nodwch fod rhai llwybrau gradd yn gofyn am gymwysterau ychwanegol (e.e. TGAU Mathemateg/Saesneg ar Radd B), ynghyd â'r cymhwyster Diploma Mynediad i Addysg Uwch. Sicrhewch eich bod yn cofrestru ar gyfer y ddarpariaeth briodol ar gyfer eich llwybr gadael cynlluniedig - gallwch drafod hyn gyda ni yn ystod eich cyfweliad os dymunwch.
Os nad oes gennych y cymwysterau TGAU sydd eu hangen arnoch chi ar gyfer eich cwrs prifysgol dewisol, efallai y byddwch eisiau ystyried ein cwrs Cyn Mynediad - Sylfaen i Oedolion. Fel arfer, mae'r wythnos gynefino'n dechrau yn ystod wythnos gyntaf mis Medi pob blwyddyn academaidd
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cwrs: £175.00
Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £175.00
Gofynion mynediad
Llythrennedd a Rhifedd Lefel 2 a aseswyd yn y cyfweliad a TGAU Gradd A * - C mewn Iaith Saesneg. Mae angen i ddysgwyr beidio â bod mewn addysg HP am dair blynedd cyn astudio'r Cwrs hwn.
Addysgu ac Asesu
- Asesiad parhaus gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth ac arholiadau.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Rydw i'n meddwl fy mod i wedi datblygu llawer o hyder ar y cwrs ac wedi dysgu sgiliau sylfaenol nad oedd gen i cynt. Fe adewais i'r ysgol ar ddechrau Blwyddyn 11 felly roedd cael C mewn mathemateg a Saesneg ar lefel TGAU yn beth mawr i mi ac yn hwb i fy hyder i.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu