Mynediad i'r Biowyddorau

L3 Lefel 3
Rhan Amser
10 Medi 2024 — 22 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cwrs Mynediad i'r Biowyddorau yn berffaith ar gyfer yr unigolion hynny sy'n awyddus i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o wyddorau biolegol. 

Cynhelir y cwrs dros dair noson gan ddechrau am 5.45pm (dim gweithdai dydd Sadwrn).

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Wedi'i lleoli ar Gampws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, dyma raglen flwyddyn ddwys a fydd yn paratoi'r myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o gyrsiau prifysgol gan gynnwys:

  • Biowyddorau
  • Gwyddoniaeth Fforensig
  • Bioleg
  • Gwyddoniaeth Fiofeddygol
  • Bwyd a Thechnoleg Gwyddoniaeth
  • Gwyddoniaeth Gofal Iechyd
  • Technoleg Ddeintyddol
  • Nyrsio
  • ODP G25
  • Ffisiotherapi
  • Iechyd Galwedigaethol
  • Dieteteg
  • Radiograffeg

Nod y cymhwyster hwn yw dysgu sgiliau a gwybodaeth i fyfyrwyr i symud ymlaen i Addysg Uwch, ac mae'r cynnwys fel rheol yn gyfle i fyfyrwyr symud ymlaen i gyrsiau prifysgol. Dyma gwrs dwys, felly rhaid i'r ymgeiswyr fod yn sicr eu bod yn barod ar gyfer gofynion academaidd a baich gwaith y rhaglen. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd y dysgwyr yn ennill y cymhwyster Diploma Mynediad i AU. Mae hwn yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac sy'n cael ei dderbyn ar gyfer cael mynediad i gyrsiau Addysg Uwch.

Mae Bioleg a Cemeg yn cael sylw fel pynciau mawr ar y cwrs hwn. Hefyd bydd yn ofynnol i chi astudio Rhifedd, Cyfathrebu a Sgiliau Astudio fel pynciau craidd gorfodol. Cynhelir tiwtorials personol wythnosol i gefnogi myfyrwyr drwy eu hastudiaethau.

Sylwer bod rhai llwybrau gradd yn gofyn am gymwysterau ychwanegol (e.e. Gradd B mewn TGAU Mathemateg/Saesneg), a hefyd y cymhwyster Diploma Mynediad i AU. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru i'r ddapariaeth briodol yn seiliedig ar eich llwybr gadael arfaethedig - gellir trafod hyn gyda ni yn ystod eich cyfweliad os ydych yn dymuno.

Os nad oes gennych y cymwysterau TGAU eisoes ac os oes angen y rhain ar gyfer y cwrs prifysgol ydych chi'n ei ffafrio, efallai yr hoffech ystyried ein cwrs cyn Mynediad - Sylfaen Oedolion. Fel arfer mae'r wythnos gyflwyno'n dechrau yn ystod wythnos gyntaf mis Medi.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £160.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00

Gofynion mynediad

3 blynedd neu fwy allan o addysg ffurfiol. TGAU Mathemateg C+ (Byddwch yn ymwybodol bod rhai prifysgolion angen gradd C+ TGAU Saesneg a Mathemateg ar y cam ymgeisio, ac mewn rhai achosion TGAU Gwyddoniaeth). Sgiliau rhifedd ar Lefel 2 a Sgiliau Llythrennedd ar Lefel 2 cryf / Lefel 3 – asesir mewn cyfweliad. Bydd angen i fyfyrwyr fod efo sgiliau TG sylfaenol, a gallu defnyddio apiau Microsoft Office – fel Teams, Word a PowerPoint – ar gyfer ymchwil academaidd ac aseiniadau. Llwybrau ymadael clir, wedi'u hymchwilio'n dda, gwybodaeth am gyrsiau prifysgol a'u gofynion mynediad. Dylai myfyrwyr ymchwilio a gwneud yn siŵr eu bod yn bodloni'r gofynion cymhwysterau am mynediad i’w ddewis o brifysgolion. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cymwysterau cyn cofrestru.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiad parhaus gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth ac arholiadau.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

10 Medi 2024

Dyddiad gorffen

22 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

10 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

ACSDF3P02
L3

Cymhwyster

Access to Higher Education Diploma (Biosciences)

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen yn y coleg a mynd ati i astudio am Radd Sylfaen. Hefyd mae llawer o fyfyrwyr yn dilyn cyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant, yn ogystal â nifer o gyrsiau yn y Brifysgol. 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE