Teithio a Thwristiaeth
Ynglŷn â'r cwrs
Bydd ein Diploma BTEC Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth yn hybu mwy ar eich gwybodaeth o'r Diwydiant, gan eich helpu i ddatblygu lefel uwch o sgiliau a phrofiad i fod yn llwyddiannus yn y sector. Wedi eu lleoli yn ein Campws Canol Dinas yng Nghaerdydd, bydd myfyrwyr yn cael profiad go iawn, arbenigwyr diwydiant gwadd, yn ogystal ag amryw o ymweliadau safle a lleoliadau gwaith mewn cyrchfannau ac atyniadau twristaidd ledled Cymru a thu hwnt. Bydd dysgwyr yn cyflawni cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant, a fydd yn agor drysau i yrfa yn y sector.
Dyma flwyddyn gyntaf cwrs dwy-flynedd i gael cymhwyster Diploma Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth.
Cynlluniwyd y cwrs yma i gwrdd ag anghenion myfyrwyr sydd eisoes yn gweithio neu sydd eisiau gweithio:
- fel Cynrychiolwyr Cyrchfannau Tramor
- yn y DU fel Cyrchfan Teithio
- ym Musnes Teithio a Thwristiaeth
- mewn Cyrchfannau Teithio Pellter Hir
- mewn Lleoliad Gwaith ar gyfer Teithio a Thwristiaeth
- i Gwmnïau Llongau Mordeithio
- mewn Digwyddiadau Cynadledda.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Bydd yr unedau sy'n ffurfio'r cymhwyster hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu mynd ymlaen yn eu gyrfaoedd yn y sector teithio a thwristiaeth.
Mae nifer o unedau yn ymdrin â phynciau megis:
- Busnes Teithio a Thwristiaeth
- Cynrychiolwyr Cyrchfannau Tramor
- Y DU fel Cyrchfan Twristiaid
- Cyrchfannau Teithio Pellter Hir
- Profiad Gwaith ar gyfer Teithio a Thwristiaeth
Byddwch hefyd yn gweithio tuag at Uwch Ddiploma Ôl-16 Baglor Cymru.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £30.00
Gofynion mynediad
5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith a / neu Fathemateg (neu gyfatebol) neu Ddiploma Lefel 2 yn yr un maes / mewn maes tebyg - Teithio a Thwristiaeth
Addysgu ac Asesu
- Aseiniadau parhaus gan gynnwys gwaith cwrs a phrofion sgiliau ar-lein
Pwyntiau pwysig
- Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18 oed
- Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymrwymedig i gynhwysedd ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac i drin pawb yn deg a chyda pharch
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
- Mae'r holl gyrsiau'n gywir ar adeg eu lanlwytho neu eu hargraffu
- Ni allwn redeg cyrsiau heb nifer digonol o fyfyrwyr
- Sylwer: os dewiswch dri neu fwy o ddewisiadau cwrs, yna fe allech chi gael eich cyfeirio at apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Cyfleusterau
Mwy
Rwy’n mwynhau’r cwrs yn fawr iawn ac ni allaf ddisgwyl i weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig i mi. Nid oeddwn yn gwybod beth oeddwn i eisiau ei wneud ar ôl gorffen yn yr ysgol uwchradd ond mae hyn wedi gweddnewid fy meddyliau a’m nodau. Mae’r cyfleusterau yn wych ac mae gennych gyfrifiaduron a llyfrau sydd mor ddefnyddiol. Rwyf wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau Gofal Cwsmer World Skills ac roedd hynny’n hynod o ddiddorol, bydd yn agor cymaint o ddrysau i mi.
Y cynllun mawr i mi yw mynd ymlaen i fod yn dywysydd. Rwyf am fynd i’r brifysgol i astudio Portiwgaleg a Ffrangeg ac yna ceisio symud i Bortiwgal i gychwyn pethau.
Rydych yn astudio cymaint o bethau gwahanol yma a gwnaeth fy mhrofiad gwaith, a drefnwyd gan y Coleg, fy helpu i benderfynu beth oeddwn i eisiau mynd ymlaen i’w wneud.
Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr fyddai gwnewch gais mor fuan ag y gallwch i wneud y mwyaf o’r cyfle. Darllenwch am y cwrs a gwnewch eich ymchwil a gwnewch gais.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu