Dylunio Amlgyfrwng (Cyfryngau Rhyngweithiol)

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein diploma BTEC 540 a'n diploma estynedig mewn Dylunio Amlgyfrwng (Cyfrwng Rhyngweithiol) yn gyfle gwych i symud ymlaen i'r sector creadigol. Mae hwn yn gwrs dwy flynedd o hyd a byddwch yn cyflawni dau gymhwyster yn ystod y cyfnod hwn. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, byddwch yn derbyn Diploma 540, ac ar ddiwedd yr ail flwyddyn byddwch yn cyflawni diploma estynedig llawn. Dylai hyn roi mwy na digon o bwyntiau UCAS i chi, os byddwch yn penderfynu mynd ymlaen at Addysg Uwch. Rydym wedi'n lleoli ar gampws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, ac mae’r rhaglen hon yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr ddysgu amrywiaeth o ddulliau dylunio Amlgyfrwng, yn ogystal â mynd i'r afael â rhai elfennau o ddylunio graffeg. Bydd dysgwyr yn gallu datblygu amrywiaeth o sgiliau sy'n ymwneud â'r maes sydd o ddiddordeb iddynt, yn ogystal â'u gallu creadigol. Mae Amlgyfrwng / Cyfrwng Rhyngweithiol yn un o'r meysydd sy'n datblygu fwyaf. Mae'n cynnwys pynciau megis Ffilmio, golygu fideos, animeiddio, effeithiau arbennig fideo, dylunio gwefan ac apiau yn ogystal â disgyblaethau eraill sy'n ymwneud â dylunio.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae'r prosiectau a ddewisir yn ofalus yn eich galluogi chi i ymateb yn greadigol i friffiau dylunio, a chael blas ar feysydd arbenigol, megis:

  • Hyfforddiant Adobe Creative Suite
  • Animeiddio
  • Dylunio Apiau Profiad Defnyddiwr/Dylunio Rhyngwyneb Defnyddiwr
  • Sain / Effeithiau Arbennig Fideo / Graffeg Symudiad
  • Golygu Fideo / Ôl-gynhyrchu
  • Dylunio Graffeg / cyfathrebu
  • Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif, TGCh, Cyfathrebu

Prosiect 1 A1 - Hyfforddiant swyddogaethau
Prosiect 2 A2 - Dylunio Profiad Defnyddiwr/ Rhyngwyneb Defnyddiwr
Prosiect 3 B1 - Datblygiad Personol (Amrywiaeth o ddisgyblaethau mewn un prosiect, llunio portffolio Ar-lein, animeiddio, effeithiau arbennig fideo ac ati).
Prosiect 4 B2 - Prosiect Mawr Olaf (Prosiect a arweinir gan y myfyriwr).

Bydd myfyrwyr yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, gan roi cyfle iddynt ddatblygu llu o sgiliau sylfaenol o ran defnyddio meddalwedd, megis Adobe After Effects, XD (meddalwedd adeiladu apiau), Photoshop, Illustrator, Premiere, Audition, Garage Band, Animate ac yn y blaen. Yn ystod y ddwy flynedd, byddwch yn cwblhau pedair uned. Gellir llunio'r unedau hyn o brosiectau cryno, llai. Er enghraifft, uned yn ymwneud ag animeiddio. Mae gan yr adran amrywiaeth eang o gyfleusterau ac offer cyfrifiadurol. Ni does angen gwybodaeth flaenorol arnoch am unrhyw feddalwedd, er y byddai hynny'n fanteisiol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Stiwdio: £65.00

Gofynion mynediad

5 TGAU A* - C gan gynnwys Saesneg Iaith neu Fathemateg, neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd Llwyddo neu uwch. Rhaid ichi fynychu cyfweliad.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiadau gwaith cwrs yn cynnwys aseiniadau ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

DMCC3F03
L3

Cymhwyster

Pearson BTEC Level 3 National 540 Diploma in Art and Design Practice

Mwy

Gwaith Myfyrwyr

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Roedd y dysgu’n wych ac roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi’n dda iawn. Roedd yna diwtora un i un ar gael bob amser ac roeddwn wir angen hynny pan oeddwn yn teimlo’n ddihyder. Roedd cyfleusterau’r coleg yn rhagorol, bob blwyddyn roedd gennym dechnoleg ac offer newydd y gallem eu harchwilio, ac roeddwn i’n teimlo bod fy sgiliau wir yn datblygu trwy hynny.

Aaron Leslie
Cyn-fyfyriwr y cwrs Gradd Sylfaen mewn Dylunio Cynnyrch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

56,000

Y diwydiannau Creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf, gyda 56,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru.

Ar ôl gorffen y cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen i'r Brifysgol.  Mynd ymlaen i weithio yn y diwydiant ym maes Animeiddio, Graffeg Symudiad, Dylunio Profiad Defnyddiwr/ Rhyngwyneb Defnyddiwr, Ffilm, Ôl-gynhyrchu Ffilm, Modelu 3D, Gwefan, Dylunio Gemau, Artist Effeithiau Arbennig Gweledol.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE