Dylunio (3D)

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein cwrs Diploma mewn Dylunio yn wych ar gyfer unigolion sy’n awyddus i ymestyn eu datblygiad yn y sector creadigol. Wedi’i lleoli ar ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae’r rhaglen hon yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr ddysgu amrywiaeth o ddulliau dylunio tri dimensiwn, yn ogystal â mynd i'r afael â rhai elfennau o ddylunio graffig. Gall dysgwyr ddisgwyl datblygu ystod o sgiliau yn ymwneud â’r maes pwnc sydd o ddiddordeb penodol iddyn nhw a’u potensial creadigol. 

Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ymateb yn greadigol i friffiau prosiect uned a rhoddir blas iddynt ar feysydd arbenigol megis:

Dylunio Cynnyrch
Dylunio Graffeg
Dylunio Dodrefn
Graffeg Gyfrifiadurol
Dylunio Pecynnau
Dylunio Set Ffilm a Phropiau
Dylunio Theatr
Dylunio mewnol
Pensaernïaeth

Bydd myfyrwyr hefyd yn archwilio rhyng-berthnasau rhwng technoleg ddylunio, cynulleidfaoedd targed, ergonomeg ac estheteg. Bydd sgiliau yn cynnwys astudio Prosesau Deunyddiau a Gweithdai, Modelu Cyfrifiaduron 3D, Egwyddorion Ergonomaidd, Cyfathrebu Graffig a Dylunio mewn cyd-destun.

Arweinir y rhaglen hon gan brosiect ac fe’i lleolir mewn stiwdio. Mae asesiadau yn barhaus ac rydych yn cael eich graddio ar gyflwyno gwaith prosiect ac aseiniadau drwy gydol y cwrs. Mae gan yr adran greadigol weithdai a chyfleuster cyfrifiadurol 3D/Celf helaeth.
Gweithdai a Digwyddiadau
Amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar gael

Mynediad at offer proffesiynol ac offer ar gyfer pren, metel, plastig

• Prototeip graddfa lawn/cynhyrchiant creu modelau gan gynnwys CNC a 3D
• Cysylltiadau gyda diwydiannau lleol
Ystafelloedd Cyfrifiaduron:
• Cyfrifiaduron Mac
• Cyfleusterau Argraffu Laser Lliw

Sinema 4D, Ystafell Greadigol Adobe (Photoshop, Illustrator)
Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn defnyddio ein meddalwedd safon diwydiant 3D- sinema 4D ar gyfer cyflwyniadau sy’n ymddangos yn broffesiynol.

Bydd prosiectau byw a chystadlaethau yn cael eu noddi gan ddiwydiannau lleol, gan annog arloesedd a chreadigrwydd. Mae'r rhain yn cynnwys:
Dylunio propiau ar gyfer Diwydiannau Ffilm Tonto
Cystadleuaeth Dragon’s Den wedi’i noddi gan Fenter Caerdydd a'r Fro
Dylunio Set mewn cydweithrediad â’r Royal Opera House a'r Academi Sgiliau Cenedlaethol - Sgiliau Creadigol a Diwylliannol.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae pynciau Blwyddyn 1 yn cynnwys:

  • Cam 1: Dylunio ar gyfer set a phropiau ffilm (mewn cydweithrediad â ffilmiau Tonto) a dylunio ar gyfer set lwyfan (mewn cydweithrediad â’r Royal Opera House)
  • Cam 2: Dylunio cynnyrch a marchnata (gyda modelu cyfrifiaduron 3D)
  • Cam 3: Dylunio tîm ar gyfer menter a chymuned
  • Cam 4: Dylunio cynaliadwy

Mae pynciau Blwyddyn 2 yn cynnwys:

  • Cam 5: Dylunio dodrefn (gyda modelu cyfrifiaduron 3D)
  • Cam 6: Dylunio mewnol a phensaernïaeth - dylunio gofodol (gyda modelu cyfrifiaduron 3D)
  • Cam 7: Y Prosiect Mawr Terfynol - briff dylunio wedi’i hunan bennu
  • Cam 8: Arddangosfa

Bydd dysgwyr hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru fel rhan o’u rhaglen astudio, sydd hefyd yn cynnwys sesiynau tiwtorial ac e-diwtorialau wythnosol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Stiwdio: £65.00

Gofynion mynediad

5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith neu Fathemateg neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd llwyddo neu uwch. Rhaid i chi gyflwyno portffolio o'ch gwaith yn ystod eich cyfweliad.

Addysgu ac Asesu

  • Gwaith cwrs ymarferol, asesiadau parhaus, aseiniadau

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CDCC3F01
L3

Cymhwyster

Pearson BTEC Level 3 National 540 Diploma in Art and Design Practice

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

56,000

Y diwydiannau Creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf, gyda 56,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru.

Wedi cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i radd Prifysgol neu Sylfaen mewn amrywiaeth o bynciau creadigol, yn cynnwys:

  • Dylunio Cynnyrch
  • Celf a Dylunio
  • Pensaernïaeth Mewnol
  • Dylunio Dodrefn
  • Dylunio Graffig
  • Dylunio Diwydiannol
  • Dylunio Cerbydau

Bydd nifer o fyfyrwyr hefyd yn mynd ar drywydd amrywiol gyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant creadigol. Trwy gymryd rhan ym mhob maes o'r rhaglen hon, bydd myfyrwyr yn casglu portffolio cynhwysfawr ynghyd i'w ddefnyddio mewn cyfweliadau yn y dyfodol.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE