Diploma mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r Diploma Lefel 3 a'r Diploma Estynedig mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol wedi eu dylunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth hanfodol i fyfyrwyr i gael mynediad at astudiaeth lefel gradd neu gyflogaeth yn y sector cyfryngau. Maent yn cynnig cyfle i'r rheiny sydd â diddordeb yn y cyfryngau i archwilio, datblygu a herio eu creadigrwydd o fewn strwythur cymhwyster sydd yn ysgogol ac yn heriol, ac yn darparu trawsnewid cefnogol o astudiaeth gyffredin i astudiaeth fwy arbenigol.

Pwyntiau UCAS a gronnwyd ar ôl cwblhau’r flwyddyn hon yn llwyddiannus:

Llwyddo = 36
Teilyngdod = 60
Rhagoriaeth = 84

Beth fyddwch yn ei astudio?

Byddwch yn astudio amrywiaeth o dechnegau cynhyrchu cyfryngau gwahanol, o gynhyrchu mewn stiwdio gyda llawer o gamerâu i gynhyrchu ffilm fer, technegau golygu fideo digidol, technegau ymchwil, ymwybyddiaeth feirniadol a chyd-destunol, strwythur diwydiant a chyfleoedd gyrfaol o fewn y sector.

Yn ychwanegol at eu prif gymhwyster bydd myfyrwyr yn astudio ac ennill achrediad Sgiliau Hanfodol Cymru.

Ochr yn ochr â hyn bydd dysgwyr yn astudio Bagloriaeth Cymru fel rhan greiddiol o'r rhaglen. Mae hyn yn cynnwys sesiynau tiwtorial ac e-diwtorialau wythnosol.

Gofynion mynediad

5 TGAU A*-C, gan gynnwys Iaith Saesneg neu Fathemateg neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd Llwyddo neu uwch. Mae'n rhaid i chi fynychu cyfweliad. Sylwer y gofynnir am waith portffolio yn ystod eich galwad sgrinio gychwynnol felly mae’n rhaid i chi gael y rhain yn barod cyn gwneud cais. Gall portffolio gynnwys unrhyw rai o'r canlynol: gwaith fideo, gwaith cyfryngau creadigol ysgrifenedig, sgriptiau wedi’u hysgrifennu, gwaith cyfryngau print.

Addysgu ac Asesu

Mae'r asesu yn gyfan gwbl seiliedig ar brosiect. Bydd myfyrwyr yn paratoi portffolio o dystiolaeth fydd yn cael ei gyflwyno ar adegau hanfodol yn ystod y flwyddyn. Cynhelir asesiadau cyfansymiol ar ôl cwblhau bob prosiect. Mae asesiad ffurfiannol ac adborth yn barhaus. Bydd myfyrwyr yn derbyn gradd pasio ar gyfer uned 1-7, a bydd eu gradd gyfansymiol derfynol yn seiliedig ar y gwaith maent wedi cwblhau ar gyfer Uned 8 - Prosiect Unigol. Bydd hyn yn cael ei raddio ar sail Pasio/Teilyngdod/Rhagoriaeth/Rhagoriaeth

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

56,000

Y diwydiannau Creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf, gyda 56,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru.

Gall myfyrwyr symud ymlaen i addysg uwch ar nifer o gyrsiau cysylltiedig o BA mewn Ffilm i BA mewn Effeithiau Gweledol, i BA Astudiaethau Sinema neu BA Cynhyrchu Cyfryngau. Yn CAVC rydym yn cynnig Gradd Sylfaen mewn Ffilm sy’n llwybr dilyniant gwych 
Fel arall, gall myfyrwyr symud at gyflogaeth yn y sector cyfryngau, sydd yn ddiwydiant llewyrchus yma yng Nghaerdydd.