Llais y dysgwr

Cynrychioli myfyrwyr a bod yn llais i'ch corff o fyfyrwyr

Beth ydi Undeb Myfyrwyr?

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cael ei redeg gan y myfyrwyr ar gyfer y myfyrwyr, i gynrychioli llais pob dysgwr yn y coleg. Mae yma i sicrhau bod y dysgwyr yn cael y profiadau gorau posib tra maen nhw yn y coleg. Hefyd mae'n gallu cynrychioli myfyrwyr yn annibynnol ar system y coleg fel bod gan fyfyrwyr lais bob amser. Mae'r holl ddysgwyr sy'n cofrestru yn y coleg yn dod yn aelodau awtomatig o Undeb y Myfyrwyr. Os nad ydych yn dymuno bod yn aelod, rhaid i chi roi gwybod i ni er mwyn i chi gael optio allan.

Cynrychiolwyr cyrsiau

Mae dau gynrychiolydd cwrs yng ngrŵp pob cwrs, llawn amser a rhan amser, a'u rôl ydi cynrychioli llais y grŵp hwnnw drwy gasglu barn y dysgwyr, beth sy'n dda yn CAVC, a beth sydd angen ei wella, a mynychu cyfarfodydd y cwrs gyda staff. Un rhan bwysig iawn o'u rôl hefyd ydi adrodd yn ôl unrhyw wybodaeth i grŵp y cwrs, a rhoi gwybod iddynt beth sy'n cael ei wneud am unrhyw faterion maen nhw wedi'u codi. Hefyd bydd cynrychiolwyr y cwrs yn cyfarfod â chynrychiolwyr eraill yn eu Cyfadran unwaith y tymor, ynghyd â Phennaeth y Gyfadaran.

Lleisio eich barn!

  • Byddwch yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau'r coleg, a dylanwadu arnyn nhw.

  • Cynrychioli eich cwrs!

  • Cyfarfod pobl newydd!

  • Derbyn tystysgrif ar gyfer eich CV!

Hefyd byddwch yn cael hyfforddiant penodol i'ch helpu chi yn eich rôl.

Yn CAVC rydyn ni'n gwrando ar ein myfyrwyr

Beth am fod yn Gynrychiolydd Cwrs ac adrodd yn ôl ar farn eich dosbarth i diwtoriaid eich cwrs a thrwy grwpiau ffocws a gweithgareddau. Neu beth am fod yn rhan o'n Hundeb Myfyrwyr - sy'n rhan o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr - gan gynrychioli safbwyntiau yn y coleg ac yn genedlaethol (ac yn rhoi llawer iawn o ostyngiadau a chyfleoedd i fyfyrwyr hefyd!)

Silviana Gabriela Rizea

Swyddog Datblygu Sabothol Dysgu Seiliedig ar Waith (WBL) ac Addysg Bellach (AB) / Llywodraethwr Myfyrwyr 

Fy nghyfrifoldebau:

  • Rhedeg Undeb y Myfyrwyr 
  • Casglu adborth gan ddysgwyr 
  • Cynnig cymorth ac arweiniad i unrhyw ddysgwr 
  • Eistedd ar Bwyllgorau Gwahanol a Chorff y Llywodraethwyr i gynrychioli Llais a Safbwyntiau'r Dysgwyr am y Coleg
  • Gweithio gyda thimau gwahanol ar draws y campws i sicrhau bod gan y dysgwyr yr adnoddau a'r cymorth priodol yn eu lle

Rwy'n ail flwyddyn fy nghwrs BTEC Lefel 3 mewn Cyfrifiadura a Seiberddiogelwch yn y coleg.

Hobïau:

  • Nofio
  • Darllen 

Jordan Iles-Lewis

Swyddog Sabothol LGBT ac Addyg Bellach (AB) 

Fy nghyfrifoldebau:


  • Rhedeg Undeb y Myfyrwyr 
  • Casglu adborth gan ddysgwyr 
  • Cynnig cymorth ac arweiniad i unrhyw ddysgwr 
  • Rwy'n Llywydd i Gymdeithas LGBT y Coleg
  • Gweithio gyda thimau gwahanol ar draws y campws i sicrhau bod gan y dysgwyr yr adnoddau a chymorth priodol yn eu lle

Ar hyn o bryd rwy'n astudio Iechyd a gofal Cymdeithasol lefel tri - rwy'n fy ail flwyddyn, sef y flwyddyn derfynol.

Hobïau:

  • Cicfocsio
  • Canu'r piano

Lamaa Saleh

Swyddog Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) 

Fy nghyfrifoldebau:

  • Cynnig cymorth i unrhyw fyfyriwr sy'n adnabod ei hun fel BAME
  • Gweithio gyda'r Swyddogion Sabothol i gynnal ansawdd yr adnoddau rydym yn eu cynnig i Ddysgwyr BAME 
  • Mynychu cyfarfodydd o fewn y coleg
  • Cynorthwyo gyda chynnal digwyddiadau i'r coleg megis mis Homoffobia, Ymgyrchoedd a mwy.

Rwy'n astudio Mynediad at Ofal Cymdeithasol.

Hobïau:

  • Darllen
  • Teithio
  • Marchogaeth

Sophie Gape

Llywodraethwr Myfyrwyr / Swyddog Sabothol Addysg Uwch 

Fy nghyfrifoldebau:

  • Rhedeg Undeb y Myfyrwyr 
  • Casglu adborth gan ddysgwyr 
  • Cynnig cymorth ac arweiniad i unrhyw ddysgwr 
  • Eistedd ar Bwyllgorau Gwahanol a Chorff y Llywodraethwyr i gynrychioli Llais a Safbwyntiau'r Dysgwyr am y Coleg
  • Helpu gyda'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) 

Rwy'n astudio Gradd Sylfaen mewn Gofal Cymdeithasol ac Ieuenctid a TGAU Mathemateg.

Hobïau:

  • Cerdded gydag Alfie, fy nghi achub
  • Canu

Callum Terrence Jon Nurse

Swyddog Sabothol yr Amgylchedd

Fy nghyfrifoldebau:

  • Rwy'n Is-lywydd i'r Gymdeithas LGBT
  • Rhedeg y Clwb Gwyrdd 
  • Byddaf yn rhedeg yr Ymgyrch Amgylcheddol ynghyd â Swyddogion Sabothol Eraill
  • Cynnig arweiniad a chefnogaeth i'r holl ddysgwyr 

Rwy'n astudio 3 chwrs Safon Uwch, yn cynnwys bagloriaeth Cymru, ac rwyf hefyd yn astudio TGAU Mathemateg. Rwyf hefyd yn astudio Hanes a drama fel rhan o'm cyrsiau Safon Uwch.

Hobïau:

  • Darllen 
  • Coginio 

Chwaraeon CAVC – Academïau a Chwaraeon Elît

Cydbwyso eich chwaraeon dewisol wrth ddysgu.

Career Ready

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn falch iawn o fod yn rhan o Career Ready. Mae'n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr ennill profiad i gynyddu eu cyfleoedd i lwyddo yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.