Cefnogaeth gyda throsglwyddo o'r ysgol i'r coleg ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol sydd â Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig.
Gall tîm pontio ymroddedig Coleg Caerdydd a'r Fro eich helpu chi i symud o ysgol i goleg. Rydym yn deall bod symud o ysgol i goleg yn amser pwysig ac efallai eich bod yn nerfus neu'n poeni am symud o'r ysgol.
Gall ein tim cyfeillgar wneud y canlynol:
- Cynnig cyngor ac arweiniad ar ddewis cwrs yn y coleg
- Bod yn bresennol yn eich Adolygiad Blynyddol a chynnig cyngor ac arweiniad
- Eich helpu chi i wneud ceisiadau a'ch cefnogi drwy'r broses dderbyn
- Cynnig teithiau pwrpasol a boreau coffi ar ein campysau trwy gydol y flwyddyn
- Enwi cyswllt penodol fydd ar gael i'ch cefnogi chi ar eich siwrnai yn y colego
- Gweithio gydag ysgolion, rhieni, Gyrfa Cymru i helpu i rannu gwybodaeth
- Helpu i lunio neu ddiweddaru Proffil Un Dudalen a MyPlan
- Rhoi cyngor ar gefnogaeth ariannol a gwasanaethau myfyrwyr
- Gweithio gyda'ch rhieni/gofalwyr i'ch cefnogi chi
- Helpu i ddatblygu eich cynllun llwybr pontio personol
Hoffwn i chi deimlo'n ddiogel, hapus a wedi'ch cefnogi yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro er mwyn i chi gwneud cynnydd ym mhob agwedd o fywyd a/neu gwaith
Lucy Curtis, Paula Lawrence a Helen Williams yw enwau ein Swyddogion Pontio.