Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae Llywodraeth Cymru wedi newid y ffordd y bydd pobl ifanc gydag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn cael eu cefnogi. 
Mae’r system newydd yn diffinio AAA fel Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae’r gyfraith yn newid am sawl rheswm, ond y prif un yw er mwyn gwneud y proses yn fwy syml a thryloyw i bawb sy’n gysylltiedig. Yn y pen draw, bydd bob dysgwr sydd â Datganiad o Angen Addysgol yn cael ei drosglwyddo i Gynllun Datblygu Unigol (CDU) yn dilyn cyfarfod adolygu yn cynnwys yr holl bobl allweddol sy’n gysylltiedig â’r person ifanc. 

Os ydych yn bwriadu mynd i’r coleg, mae’n bwysig iawn eich bod yn ein hysbysu ynglŷn â’ch anghenion cymorth cyn gynted â phosibl cyn eich cyfweliad. Mae hyn oherwydd ein bod eisiau sicrhau y gallwn fodloni eich anghenion cymorth cyn eich bod yn cofrestru ar un o’n cyrsiau. Mae modd i chi wneud hyn ar eich ffurflen gais, yn ystod noson agored neu drwy anfon e-bost atom ar aln@cavc.ac.uk.   

Dolenni defnyddiol
Gweler y dolenni a dogfennau isod am ragor o wybodaeth: 

Llywodraeth Cymru - Gwybodaeth Bwysig
System Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Canllaw i Rieni

Cyngor Caerdydd - Gwybodaeth bwysig
Yn ogystal, mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o ganllawiau defnyddiol isod y mae modd eu lawrlwytho:
Cyngor Caerdydd - Cyngor a Llinell Gymorth ADY
Cyngor Caerdydd - Canllaw i Gynlluniau Datblygu Unigol (CDU)
Cyngor Caerdydd - Canllaw i Gyfarfodydd sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn 
Cyngor Caerdydd - Canllaw i’r Broses ADY ar gyfer Ysgolion
Cyngor Caerdydd - Rhestr Cysylltiadau Defnyddiol

Cyngor Bro Morgannwg - Gwybodaeth bwysig

Ymholiadau pellach
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, anfonwch e-bost atom ar aln@cavc.ac.uk