Fy nghofnod blog cyntaf

Ychydig amdanaf i…

Helo! Fy enw yw Rachel ac rwy'n Genhades Addysg Uwch yma yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro.

Rwy'n gweithio mewn academi celfyddyd perfformio ar ddydd Sadwrn a dyma'r swydd orau yn y byd/ Y broblem oedd, cymaint ag yr oeddwn yn caru canu ac actio, doedd gen i erioed yr hyder i berfformio o flaen cynulleidfa. Mae gweithio gyda phlant yn yr academi yn fy ysbrydoli. Mae'r bobl ifanc arbennig yma yn perfformio o flaen cynulleidfa ac yn mynd amdan. Nid oes ots ganddynt beth mae pobl yn ei feddwl, maent yn gwneud yr hyn maent yn ei garu ac mae gweld nhw'n cyflawni eu breuddwydion yn wych. Felly, yn 34 mlwydd oed, penderfynais ei bod hi'n bryd i mi beidio â gwrando ar y llais yn fy mhen yn dweud wrthyf na allaf wneud pethau a mynd amdani.

Cyflwynais gais i Goleg Caerdydd a'r Fro a chefais fy nerbyn ar Gwrs Sylfaen Celfyddyd Perfformio. Roeddwn yn poeni ar y cychwyn. Dwi'n fam i ddau o blant bach gwych ac mae fy mhartner yn gefnogol iawn. Allwn ni fynd yn ôl i'r coleg? * * Allwn ni ei fforddio?**A fyddai'n ffitio gyda fy mywyd adref? A fyddai'n ormod o waith? A allwn ddod dros fy mhryder? Yn fuan iawn yr ateb oedd GALLWN!

Roedd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn wych yn sortio fy menthyciad. Roedd yr amserlen yn wych ar gyfer pan oedd y plant yn yr ysgol. Gallwn ymdopi gyda'r llwyth gwaith ac roedd yr aseiniadau yn ddiddorol. Gallwn barhau i weithio ar ddydd Sadwrn ac fe ddois dros y nerfau yn y diwedd! Roeddwn i'n nerfus iawn am gyfarfod â'm dosbarth am y tro cyntaf. Roeddwn yn disgwyl mai fi fyddai'r hynaf yna ond yr wyf wedi bod mor ffodus i gael grŵp mor anhygoel. Mae cael maint dosbarthiadau llai nag y byddech yn ei chael yn y Brifysgol yn ei gwneud hi'n haws i ffurfio cyfeillgarwch cryf a dod i adnabod ei gilydd. Mantais arall yw faint o amser cyswllt sydd gennych gyda'ch tiwtoriaid. Maent bob amser yno i ofyn am help ac maent yn hynod gefnogol. Mae'r coleg yn cynnig rhwydwaith cefnogi anhygoel trwy eu canolfan cefnogi dysgu, cyfarwyddyd gyrfaoedd a gwasanaeth cwnsela.

Ers cychwyn fy nghwrs ym mis Medi dwi wedi:

  • Bod yn rhan o bedwar perfformiad yn y Coleg
  • Ysgrifennu a pherfformio gwaith fy hun
  • Actio yn ddigwyddiad Calan Gaeaf Castell Coch
  • Ysgrifennu drama sy'n cael ei pherfformio mewn noson ar gyfer dramodwyr newydd
  • Wedi bod mewn nifer o ffilmiau myfyrwyr

Mae'r cyfleoedd a gynigir gan y Coleg yn wych. Cawsom y cyfle i weithio gyda CADW a chymryd rhan yng Nghalan Gaeaf Castell Coch, sef fy mhrofiad actio cyntaf erioed ac rwy'n ei garu yn llwyr. Maen nhw'n cael tocynnau i lawer o berfformiadau yng Nghaerdydd, sy'n wych i wylio. Rydyn ni'n mynd ar daith i Stratford-Upon-Avon ym mis Mehefin i weld drama. Yn ddiweddar, cawsom y cyfle i weithio gyda'r * BBC yn y prosiect 'It's My Shout' * sy'n rhoi'r cyfle i bobl weithio fel cast a chriw ar ffilmiau byr a wneir gan y BBC, ac yna byddant yn cael eu darlledu ar y we. Byddaf yn gweithio fel rhan o gast a chriw fel goruchwyliwr sgript. Rwy'n hynod gyffrous amdano!

Fy mhrosiect nesaf yw cymryd rhan yn sioe diwedd blwyddyn yr Adran Greadigol. Dyma'r tro cyntaf i mi ganu o flaen cynulleidfa sydd yr un mor gyffrous a hefyd yn codi ofn arnaf! Bydd hwn yn arddangosfa o'r gwaith ar draws yr adran greadigol sy'n gyffrous iawn! Gobeithio bydd gen i rai fideos i chi tro nesaf.

Pan fyddaf yn meddwl yn ôl i'r adeg yma llynedd pan oeddwn i'n mynd i'r cyfweliad, fyddwn i erioed wedi dychmygu y gallwn i gyflawni cymaint. Fy nod fel Llysgennad Addysg Uwch yw dangos i bobl y gallant wneud hyn. Gallwch gael teulu a bywyd a swydd a mynd yn ôl i fyd addysg a gwneud yn dda. Gallwch chi oresgyn nerfau a hunan-amheuaeth. Gallwch chi wneud unrhyw beth rydych chi'n rhoi eich meddwl arno hyd yn oed os ydych chi'n poeni eich bod wedi ei gadael hi'n rhy hwyr. Nid yw hi byth yn rhy hwyr. Gobeithio y bydd y blog hwn yn rhoi cipolwg i chi o sut beth yw bod yn fyfyriwr addysg uwch go iawn yn CAVC. * Os ydych chi'n fy ngweld o gwmpas ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch ag ofni gofyn! *

Lawrlwytho Canllaw Cyrsiau

Cyfle i ddysgu mwy am yr holl gyrsiau drwy lawrlwytho un o'n canllawiau cwrs!

Cofrestru ymlaen llaw nawr!

Nosweithiau Agored

Ymunwch â ni ar ein campysau yn y Barri a Chaerdydd ar gyfer ein Nosweithiau Agored.