Cefnogaeth Dysgu ar gyfer dysgwyr AU

Cefnogaeth i ddysgwyr sy'n astudio cyrsiau Addysg Uwch

Gwybodaeth Allweddol

Bydd ein tîm ymroddedig arbenigol yn eich cefnogi chi trwy gydol eich cwrs gyda chefnogaeth arbenigol ar gyfer y rhai ag anawsterau dysgu ac anableddau corfforol, yn cynnwys dyslecsia, dyspracsia, nam ary golwg/clyw, anawsterau symud, ADHD, ASD a salwch difrifol.

Lwfans Myfyrwyr Anabl
Mae'r DSA yn gynllun heb brawf modd s gyllidir gan y llywodraeth fydd yn gallu talu am unrhyw gefnogaeth y byddwch ei hangen i sicrhau nad ydych yn profi anfantais yn ystod eich astudiaethau.

Gallwn roi cymorth i fyfyrwyr sy'n deilwng i wneud cais am Lwfans Myfyriwr Anabl (DSA) a threfnu bod cefnogaeth ariannol yn ei lle. Bydd myfyrwyr ag anabledd neu nam, gan gynnwys anawsterau dysgu penodol, yn gymwys efallai.

Argymhellir yr holl gefnogaeth yn ystod Asesiad Anghenion pan fydd trafodaeth yn cael ei chynnal am sut mae eich anabledd neu eich nam yn effeithio arnoch chi yn unigol.

Sut mae gwneud cais?
Gallwch wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl cyn neu yn ystod eich cwrs, ond rydym yn argymell eich bod yn gwneud hynny cyn gynted â phosib oherwydd mae'n gallu cymryd amser i roi popeth yn ei le. Er mwyn gwneud cais am DSA bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cyflwr. Bydd rhaid i chi lenwi ffurflen DSA1 fel rhan o'r broses ymgeisio a gallwn gynnig cymorth gyda hynny.

Dolenni Defnyddiol

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Student Finance England

Cyfraddau ar gyfer gwasanaethau Gweithiwr Cefnogi Help Anfeddygol

lawrlwythwch y cyfraddau presennol yma.

Siarad Dysgu Byw

Bob blwyddyn rydym yn gwella’r cyfleoedd a’r gefnogaeth i fyfyrwyr sy’n dod o ysgolion cyfrwng Cymraeg ar draws y rhanbarth, i barhau i ddysgu’n ddwyieithog a thrwy gyfrwng y Gymraeg.

Ar gyfer AU - Pam dewis CAVC

Mae llawer o resymau tros ddewis CAVC fel eich lleoliad astudio ar gyfer cwrs prifysgol

Sut i wneud cais am gwrs AU

Mae gwneud cais am gwrs AU yn CAVC yn hawdd ar-lein