Prentisiaethau Iau
Mae Prentisiaethau Iau yn ffordd unigryw newydd o ddysgu a dechrau hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. Yn ystod Blwyddyn 10 a 11, mae pobl ifanc ar raglen Prentisiaeth Iau yn dod i’r coleg, yn hytrach na’r ysgol, pum diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor.
Ar Brentisiaeth Iau, gallwch ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ac ennill cymwysterau diwydiant ar gyfer eich gyrfa ddewisol yn y dyfodol.
Ynghyd â hyn, byddwch yn astudio Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, ac yn parhau i sefyll arholiadau TGAU yn y pynciau hyn sy’n wysig ar gyfer unrhyw yrfa yn y dyfodol.
Mae’r rhaglenni unigryw hyn yn cynnig llwybr ar gyfer pobl ifanc i hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. Ein nod yw eich paratoi ar gyfer cyflogaeth ac yn barod i symud ymlaen at eich cam nesaf - cwrs lefel uwch neu brentisiaeth yn eich gyrfa ddewisol yn 16 oed.
Rydym yn gweithio gyda dros 25 o ysgolion ledled Caerdydd a'r Fro ac yn darparu ystod o Lwybrau Dysgu arloesol, ysgogol.
Am ragor o wybodaeth am School Link, cysylltwch â'r tîm: learningpathways@cavc.ac.uk
Ynghylch ein rhaglen Brentisiaethau Iau
Ar Brentisiaeth Iau, byddwch yn...
- Cael y cyfle i ddechrau hyfforddi ar gyfer gyrfa yn 14 neu 15 oed
- Cael yr un tymhorau a gwyliau â’ch ysgol
- Astudio yn y coleg yn ystod y tymor, pum diwrnod yr wythnos, 9.30am - 3.00pm
- Derbyn cefnogaeth dysgu gan ein Hyfforddwyr Dysgu a pharhau i dderbyn trafnidiaeth a chinio ysgol am ddim os dych yn gymwys
- Canolbwyntio ar bynciau rydych yn eu mwynhau ac yr hoffech gael gyrfa ynddynt yn y dyfodol
- Astudio ar gyfer cymwysterau a gydnabyddir gan ddiwydiant
- Camu allan o amgylchedd yr ysgol ac i Gampws Canol y Ddinas CAVC - coleg lle gallwch ddysgu mewn cyfleusterau safon diwydiant a gyda thiwtoriaid cymwys y diwydiant
- Cael cyfle i ennill cymhwyster Lefel 1 neu 2 sy’n berthnasol i’r yrfa honno, yn ogystal â TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth
- Cael sicrwydd o le yn CAVC ar gwrs lefel uwch neu brentisiaeth ar ôl i chi gwblhau Blwyddyn 11 yn llwyddiannus
- Paratoi at gyflogaeth a gyrfa yn y maes yr ydych yn ei ddewis
Am beth ydym yn chwilio?
Disgyblion Blwyddyn 10 neu 11 sydd...
- Eisiau dechrau hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol
- Yn awyddus i ddod i’r coleg, gweithio’n galed a dysgu am y pwnc
Nid oes angen ichi fod â chymwysterau blaenorol.
Sut i wneud cais?
I wneud cais, mae’n rhaid ichi siarad â’ch Pennaeth Blwyddyn yn yr ysgol neu arweinydd lle rydych wedi eich cofrestru i ddysgu ar hyn o bryd. Nid yw’r Coleg yn gallu derbyn ceisiadau uniongyrchol ar gyfer Prentisiaethau Iau.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael eu hatgyfeirio drwy’r ysgol neu lle rydych wedi eich cofrestru i ddysgu ar hyn o bryd.