Pam CAVC?

Pob blwyddyn mae miloedd o bobl ifanc yn ymuno â ni ar ôl gadael Blwyddyn 11 i astudio cyrsiau Safon Uwch, cwrs sy’n canolbwyntio ar yrfa neu brentisiaeth.

Dyma ychydig o resymau pam...

Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig profiad o safon uchel. Yn ein harolwg diweddaraf, rhoddodd Estyn, Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant, radd Ragorol neu Dda i ni ar draws yr holl feysydd arolygu.

Rydym yn cynnig bron i 40 o bynciau Safon Uwch – un o’r dewisiadau mwyaf yn y rhanbarth.

Fel un o’r colegau mwyaf yn y DU, rydym hefyd yn cynnig ystod eang o gyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfa. O Beirianneg Awyrennau i Gelf a Dylunio, Busnes i Therapi Harddwch, Adeiladu i Arlwyo - mae yna gymaint o ddewis!

Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu pobl fedrus a chyflogadwy sy’n sefyll allan o’r dorf ac yn gwneud cynnydd. Mae pob myfyriwr yn cael profiadau cyffrous sy’n eu helpu i ddatblygu a chael cam ar y blaen gan gynnwys lleoliadau gwaith, briffiau diwydiant byw, prosiectau cymunedol, siaradwyr gwadd, teithiau rhyngwladol, cystadlaethau sgiliau cenedlaethol a mwy.

Fel y Coleg Arddangos Microsoft cyntaf yng Nghymru, rydym yn arwain y ffordd o ran defnyddio technoleg wrth ddysgu. Mae hyn o gymorth i wneud dysg yn ddiddorol ac i ddatblygu sgiliau digidol pwysig y mae cyflogwyr yn gweld gwerth ynddynt.

Cymerodd mwy o fyfyrwyr CAVC ran mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol — ac enill! Gyda’n myfyrwyr yn cael eu cydnabod fel rhai o’r goreuon yn y DU am yr hyn y maent yn ei wneud!

Mae gan ein myfyrwyr enw arbennig o dda am symud ymlaen i addysg bellach neu gyflogaeth ar ôl gadael eu cwrs. Aeth dros 1,000 o fyfyrwyr ymlaen i astudiaethau prifysgol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a miloedd yn fwy yn ymgymryd â phrentisiaethau a chyflogaeth.
Mae gennym athrawon gwych gyda chyfoeth o arbenigedd a phrofiad, sy’n gallu cynnig gwybodaeth sy’n rhoi mwy na chymhwyster yn unig i fyfyrwyr. Maen nhw hefyd yn gyfeillgar, yn groesawgar ac wedi ennill gwobrau! A chyfleoedd cyffrous i ddatblygu angerdd neu ddawn ochr yn ochr â’ch cwrs – o’n Hacademïau Chwaraeon enwog i’r Celfyddydau Perfformio.

Mae gennym gyfleusterau anhygoel i ddysgu ynddynt — o labordai gwyddoniaeth i stiwdios ffilm, bwytai o’r radd flaenaf, salonau a sbas, canolfannau arbenigol o safon diwydiant ar gyfer meysydd fel Awyrofod, Modurol ac Adeiladu yn ogystal â lleoedd enfawr i astudio’n annibynnol, cymdeithasu gyda ffrindiau neu i gael cinio sydyn.

Ac mae ein Cymorth i Fyfyrwyr wedi cael ei gydnabod fel y gorau yn y DU! Gyda’n timau o staff cymorth arbenigol yn gweithio gydag athrawon ar draws y coleg i gynnig cymorth cyffredinol i bob un myfyriwr gan gynnwys cymorth dysgu, llesiant, cymorth ariannol a mwy, drwy gydol eich amser yn y Coleg.

Cefnogaeth Ariannol

Rhagor o wybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer cyrsiau Addysg Bellach llawn amser a rhan amser.
Course Guides

Lawrlwytho Canllaw Cyrsiau

Cyfle i ddysgu mwy am yr holl gyrsiau drwy lawrlwytho un o'n canllawiau cwrs!

Chwaraeon CAVC – Academïau a Chwaraeon Elît

Cydbwyso eich chwaraeon dewisol wrth ddysgu.

Gwybodaeth i rieni, gofalwyr a gwarcheidwaid

Gwybodaeth ddefnyddiol i rieni a gwarcheidwaid