Nid yw'n rhy hwyr! Byddwch yn siŵr o gael dyfodol disglair yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro!
Gallwch wneud cais o hyd am gwrs sy'n cychwyn fis Medi yma.
Mae yna leoedd ar gael o hyd ar gyrsiau. Ar ôl i chi ymgeisio, bydd ein Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn cysylltu â chi i drafod y cam nesaf. os ydych chi wedi cael eich canlyniadau a ddim yn siwr beth i wneud nesaf ni yma i hepu. Byddwn yn gweithio gyda chi ac yn anelu at gynnig lle ar y cwrs gorau i chi.
Mae ein timau cyngor y coleg bob amser ar gael am sgwrs a bydd cyfle i siarad ag athrawon o'r meysydd y mae gennych ddiddordeb ynddynt i gael atebion i'ch cwestiynau.
Felly chwiliwch am gwrs a phan fyddwch wedi dod o hyd i'r un cliciwch y botwm pinc Ymgeisio Nawr a bydd eich taith yn dechrau.
Ymgeisio nawr
Gwrandewch ar ein Swyddog Recriwtio Myfyrwyr, Jo, yn trafod sut allwn eich helpu chi gyda'ch camau nesaf
Er na allwch ymweld â ni ar hyn o bryd, rydym yn eiddgar i chi weld ein cyfleusterau o'r radd flaenaf.
I ddechrau arni, pam na ewch chi i ymweld a'n diwrnod agored rhithwir.