Nosweithiau Agored
Am ein Nosweithiau Agored
Os ydych chi'n meddwl am fynd i’r Coleg, mae ymweld â ni mewn Noson Agored yn ffordd wych o ddysgu mwy. Mewn Noson Agored, gallwch siarad â thiwtoriaid am gyrsiau sydd o ddiddordeb i chi, mynd ar daith o amgylch y cyfleusterau’r safle, cael cyngor ac arweiniad a dysgu am y gefnogaeth a’r cyfleoedd a gynigir gan y Coleg. Gallwch hyd yn oed gael help gan staff cyfeillgar i wneud cais ar y pryd.
Mae’n syniad da archebu ymlaen llaw.
Bydd archebu ar gyfer nosweithiau agored Mehefin ar gael cyn bo hir.
Dyddiau Agored Ebrill
Dydd Mawrth 9 Ebrill - 4:30pm - 7:30pm
Campws y Barri – Bydd cynrychiolaeth o bob cwrs ar gael am sgwrs.
Campws ICAT – Bydd cynrychiolaeth o gyrsiau awyrenegol ar gael am sgwrs.
Dydd Mercher 10 Ebrill - 4:30pm - 7:30pm
Campws Canol y Ddinas - Bydd cynrychiolaeth o bob cwrs ar gael am sgwrs.
Academi Celfyddydau Creadigol - Bydd cynrychiolaeth o gyrsiau creadigol ar gael am sgwrs.
Dydd Iau 11 Ebrill - 4:30pm - 6:00pm
Sut i archebu
- Dewiswch y digwyddiad, y dyddiad a'r campws yr hoffech fynd iddo. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i dudalen archebu Eventbrite.
- Dewiswch y slot amser cyrraedd yr hoffech ei archebu.
- Byddwch yn cael e-bost cadarnhau o'ch archeb.
- Nodwch mai dim ond chi ac un person arall sy'n cael eu cynnwys yn yr archeb.