Os ydych chi'n meddwl am fynd i’r Coleg, mae ymweld â ni mewn Noson Agored yn ffordd wych o ddysgu mwy. Mewn Noson Agored, gallwch siarad â thiwtoriaid am gyrsiau sydd o ddiddordeb i chi, mynd ar daith o amgylch y cyfleusterau’r safle, cael cyngor ac arweiniad a dysgu am y gefnogaeth a’r cyfleoedd a gynigir gan y Coleg. Gallwch hyd yn oed gael help gan staff cyfeillgar i wneud cais ar y pryd.
Mae’n syniad da archebu ymlaen llaw.
Rydym yn cynnal nosweithiau agored drwy gydol y flwyddyn. Cadwch olwg ar y dudalen hon am ddyddiadau newydd.