Nosweithiau Agored

Ymunwch â ni ar ein campysau yn y Barri a Chaerdydd ar gyfer ein Nosweithiau Agored.

Am ein Nosweithiau Agored

Os ydych chi'n meddwl am fynd i’r Coleg, mae ymweld â ni mewn Noson Agored yn ffordd wych o ddysgu mwy. Mewn Noson Agored, gallwch siarad â thiwtoriaid am gyrsiau sydd o ddiddordeb i chi, mynd ar daith o amgylch y cyfleusterau’r safle, cael cyngor ac arweiniad a dysgu am y gefnogaeth a’r cyfleoedd a gynigir gan y Coleg. Gallwch hyd yn oed gael help gan staff cyfeillgar i wneud cais ar y pryd. 

Mae’n syniad da archebu ymlaen llaw.

Bydd archebu ar gyfer nosweithiau agored Mehefin ar gael cyn bo hir.

Sut i archebu

  • Dewiswch y digwyddiad, y dyddiad a'r campws yr hoffech fynd iddo. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i dudalen archebu Eventbrite.
  • Dewiswch y slot amser cyrraedd yr hoffech ei archebu.
  • Byddwch yn cael e-bost cadarnhau o'ch archeb. 
  • Nodwch mai dim ond chi ac un person arall sy'n cael eu cynnwys yn yr archeb.