Sut i sicrhau prentisiaeth

Os ydych chi dros 16 oed, yn byw yng Nghymru a ddim mewn addysg llawn amser gallwch wneud cais am Brentisiaeth. Yn gyntaf, byddwch angen cyflogwr. Cewch ychydig o awgrymiadau da gyda’n canllaw cam wrth gam isod.

Cam 1

Dod o hyd i gyflogwr – mae Gyrfa Cymru yn cyhoeddi llefydd Prentisiaeth gwag drwy’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau lle gallwch chwilio am lefydd gwag ledled Cymru. Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda nifer o gyflogwyr bob blwyddyn i gynnig Prentisiaethau. Ewch i www.careerswales.com/cy/ i weld y llefydd gwag diweddaraf. Gallwch weld rhai o’n llefydd gwag yma, ar y safle hwn. Weithiau mae llefydd prentisiaeth gwag yn cael eu hysbysebu yn adrannau swyddi papurau newydd neu gallech hefyd gysylltu â chyflogwr yn uniongyrchol. Os ydych eisoes yn cael eich cyflogi, gallwn gynnig cyngor ac arweiniad i chi a’ch cyflogwr ar y broses o drefnu rhaglen brentisiaeth ar eich cyfer.

Cam 2

Cysylltwch gyda ni - Cysylltwch â'n tîm Prentisiaethau i drafod a ydych chi'n gymwys i gael rhaglen Brentisiaeth. Ffoniwch 01446 748212 neu anfonwch e-bost at apprenticeships@cavc.ac.uk i wneud cais am Brentisiaeth CAVC sy'n cael ei redeg ar safleoedd Coleg Caerdydd a'r Fro. Os oes gennych chi gyflogwr eisoes, gwnewch gais yma ar gyfer eich rhaglen brentisiaeth. Bydd gofyn ichi ymgymryd ag asesiad cychwynnol llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol a chyfweliad cyn cam 3.

Cam 3

Y cytundeb - byddwch chi, eich cyflogwr a'r Coleg yn cytuno ar raglen ddysgu prentisiaeth.

Cam 4

Gwnewch gais a chofrestrwch yn CAVC - cwblhewch y broses trwy gofrestru ar eich rhaglen hyfforddiant prentisiaeth ac rydych yn barod i ddechrau arni.

Gofynion Mynediad

Gall unrhyw un sydd dros 16 oed, sy'n byw yng Nghymru a ddim mewn addysg amser llawn wneud cais am Brentisiaeth. Bydd angen i chi gael cyflogaeth yn y sector yr hoffech weithio ynddi cyn gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro am eich hyfforddiant (gweler tudalen 6 am fanylion ar ddod o hyd i gyflogwr ar gyfer eich prentisiaeth). Bydd angen i chi hefyd gynnal asesiad cychwynnol mewn rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol. Os ydych eisoes wedi'ch cyflogi, yna gallwn weithio gyda chi a'ch cyflogwr i drefnu rhaglen brentisiaeth sy'n addas i chi.