Addysg Sylfaenol i Oedolion

Datblygwch eich sgiliau gyda chyrsiau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol yn dechrau ym mis Medi, Ionawr ac Ebrill.

Sgiliau Sylfaenol i Oedolion - Saesneg, Mathemateg a TG

Gallai astudio cwrs Llythrennedd (Cyfathrebu), Rhifedd (Cymhwyso Rhif) neu gwrs Cymhwysedd Digidol gyda Coleg Caerdydd a’r Fro eich helpu i:

  • Ennill cymhwyster (Sgiliau Allweddol neu Agored)
  • Paratoi ar gyfer gwaith neu gwrs coleg pellach 
  • Gwella sgiliau bob dydd

Mae dosbarthiadau ar gael o gwrs Mynediad 1 i Lefel 2 ac yn dechrau ym mis Medi, mis Ionawr a mis Ebrill

Cyn cofrestru bydd gofyn i chi gwblhau prawf sgrinio WEST er mwyn penderfynu ar eich lefel gychwynnol a chynnal cyfweliad byr, er mwyn eich gosod yn y dosbarth sy’n addas ar eich cyfer chi.

Mae’r cyrsiau 11 wythnos yn rhedeg am 6 awr yr wythnos a byddant yn gyfuniad o addysgu wyneb yn wyneb ar-lein ac astudio annibynnol. Mae disgwyl i chi ymrwymo i’r 6 awr lawn.


Opsiynau sydd ar gael: 
Naill ai 
Cymhwyster achrededig Sgiliau Allweddol - dyddiau astudio penodol ar safle coleg (ar gael wrth wneud cais).
NEU 
Uned Agored lle gallwch astudio'n hyblyg ac ni fydd yn ofynnol i chi sefyll aroliad. Yn addas ar gyfer dysgwyr sydd eisiau rhoi sglein ar eu sgiliau (nodwch nad yw hwn yn gymhwyster Sgiliau Allweddol)

Am ragor o wybodaeth E-bostiwch: abe@cavc.ac.uk

Os mai Saesneg yw eich ail iaith a bod angen cwrs ESOL arnoch cliciwch yma. 

Lleoliad cyrsiau

Mae’r lleoliadau’n amrywio ar gyfer pob cwrs.

#EichCAVC

Mae ein cyrsiau Sgiliau Sylfaenol i Oedolion wedi'u cynllunio i gyd-fynd â'ch bywyd chi, a dim ond £10 yw ffioedd y cwrs! O ddydd Llun i ddydd Gwener rydym yn ymdrin â Saesneg, Mathemateg a TGCh, felly wnewch chi ddim colli'r cyfle i ddychwelyd i fyd addysg.

#EichDyfodol

Mae eich dyfodol yn bwysig i ni ac rydym yn gobeithio y bydd y cyrsiau hyn yn rhoi hwb i chi fwrw ymlaen gartref, yn y gwaith ac mewn addysg. Gallwch ddysgu mwy am eich llwybrau datblygu drwy siarad â'ch tiwtor neu ein staff cefnogi cyfeillgar.

Cyrsiau Sgiliau Sylfaenol i Oedolion

Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs
Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Gweithio Tuag at Sgiliau Allweddol Cyfathrebu L1 Rhan Amser 1 Mai 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Gweithio Tuag at Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol L1 Rhan Amser 1 Mai 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol L1 Rhan Amser 2 Mai 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol L1 L2 EL2 Rhan Amser 30 Ebrill 2024 1 Mai 2024 2 Mai 2024 3 Mai 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd Campws Dwyrain Caerdydd Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol L2 Rhan Amser 1 Mai 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Cymhwyso Sgiliau Allweddol Rhifedd L1 L2 EL2 Rhan Amser 29 Ebrill 2024 30 Ebrill 2024 1 Mai 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd Campws Canol y Ddinas, Caerdydd Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd
Sgiliau Allweddol Cyfathrebu L1 L2 EL2 Rhan Amser 29 Ebrill 2024 30 Ebrill 2024 2 Medi 2024 7 Ionawr 2025 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd Campws Canol y Ddinas, Caerdydd Lleoliad Cymunedol Neuadd Llanrhymni