Archebu taith o amgylch y campws

Mae ein hadain fusnes wych yn cynnwys 9 ystafell gyfarfod a 2 ardal grŵp ac mae’n gallu croesawu hyd at 80 o bobl mewn un ystafell. Hefyd, mae’n siâp perffaith i gynnal eich cynhadledd neu eich cyfarfod busnes nesaf. Fodd bynnag, os hoffech rywbeth ychydig yn wahanol, mae gennym hefyd ofod amrywiol arall ar gael, gan gynnwys:

  • Bwyty o safon Y Dosbarth – gyda golygfeydd cwbl drawiadol ar draws y ddinas, cogyddion proffesiynol, bar llawn a sgrin fawr                         
  • Urbasba – salon eang gydag ystafelloedd triniaeth proffesiynol, Jacuzzi, tanc arnofio sych a sawna 
  • Siop goffi fodern fawr     
  • Gofod theatr a pherfformio gyda seddau i 100 a’i swyddfa docynnau ei hun                             
  • Atriwm mawr – gofod agored mawr yng nghanol yr adeilad gyda lle i 300 o bobl – perffaith ar gyfer partïon neu arddangosfeydd                          

Cysylltu â ni:

Byddem wrth ein bodd yn trafod eich digwyddiad gyda chi neu’n mynd â chi ar daith bersonol o amgylch ein cyfleusterau. Llenwch y manylion isod a byddwn yn eich ffonio chi’n ôl yn fuan.


 

Cofiwch, er mwyn archebu Y Dosbarth neu Urbasba, cliciwch ar y dolenni.