Mynediad galwedigaethol

L1 Lefel 1
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 28 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

A ydych chi'n ansicr ar hyn o bryd ynghylch sut i symud ymlaen gyda'ch addysg? A oes angen cymorth ac amser arnoch i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder i wneud y dewisiadau cywir ar gyfer y dyfodol?

Mae cyrsiau'r Porth Galwedigaethol wedi'u cynllunio i'ch galluogi i feithrin sgiliau a'ch helpu i wneud penderfyniadau am eich camau nesaf. Mae cyrsiau'r Porth Galwedigaethol yn cynnig cyflwyniad i'r coleg mewn amgylchedd cefnogol. Byddwch yn profi ystod o weithgareddau a fydd yn eich helpu i adnabod eich cryfderau a'ch diddordebau. Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi cyfle i chi symud ymlaen i gwrs Mynediad Galwedigaethol lefel uwch, neu yn syth i'ch maes astudio dewisol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cwrs Mynediad Galwedigaethol yn cynnwys ystod o weithgareddau ymarferol a gweithgareddau yn y dosbarth sydd wedi'u cynllunio i roi'r sgiliau, y rhinweddau a'r profiadau sydd eu hangen i gwrdd â'ch nodau dilyniant.  Mae amserlen pob myfyriwr Sgiliau Gwaith Galwedigaethol yn cynnwys yr elfennau canlynol:

Sesiynau Llwybrau Galwedigaethol

Byddwch yn gallu dewis llwybr galwedigaethol fel y gallwch gael blas ar sut beth fydd astudio ar gwrs lefel uwch. Mae'r opsiynau hyn nid yn unig yn helpu i feithrin sgiliau a'ch helpu i wneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol ond hefyd yn helpu i feithrin cysylltiadau gwerthfawr â staff mewn meysydd cwricwlwm eraill.

Mae'r Llwybrau Galwedigaethol yn cynnwys:

Arlwyo, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus, y Cyfryngau, Celf, TG, Mecaneg, Crefftau Adeiladu, Gwallt a Barbro, Harddwch, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Busnes, Plymio a Thrydanol, y Celfyddydau Perfformio, a Cherddoriaeth.

Datblygu Sgiliau Hanfodol

Bydd eich sesiynau Sgiliau Hanfodol wythnosol yn datblygu eich sgiliau Saesneg, Mathemateg a TGCh. Yn ogystal, bydd y sesiynau yn eich helpu i fyw ac astudio yn annibynnol ac yn gwella eich gallu academaidd. Bydd yr opsiynau hyn yn cael eu cyflwyno ar Lefel Mynediad 2, Lefel Mynediad 3 a Lefel 1. Byddwch yn gweithio tuag at ennill cymwysterau i'ch helpu i symud ymlaen i'ch cwrs dewisol, gyda'r opsiwn i ail-sefyll eich TGAU Mathemateg a Saesneg lle bo modd. Bydd hyfforddiant mewn grwpiau bach mewn amgylchedd cefnogol yn meithrin eich hyder ac i'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol, bydd eich tiwtoriaid hefyd yn eich cyfeirio at adnoddau mewnol ychwanegol.

Prosiectau Craidd

Yn ystod eich amser ar y cwrs Mynediad Galwedigaethol, byddwch yn cwblhau dau brosiect cyffrous i ddatblygu eich gallu i weithio ac astudio yn annibynnol. Bydd y prosiectau hyn yn datblygu eich hyder, sgiliau gwaith tîm, sgiliau astudio, sgiliau cyflogadwyedd a'r sgiliau angenrheidiol i astudio ar lefel uwch. Bydd y briffiau ar gyfer y prosiectau hyn yn cael eu gosod gan gyflogwyr ac elusennau allanol a byddant yn rhoi profiadau bywyd go iawn i chi gyfeirio atynt ar eich CV ac mewn cyfweliadau. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno ar Lefel Mynediad 3.

Datblygiad Personol a Thiwtorial

Byddwch yn gweithio gyda'ch tiwtor i adnabod eich cryfderau a'ch meysydd i'w datblygu, gan eich galluogi i greu cynllun datblygu unigryw ac adnabod adnoddau addas i'ch helpu i gyflawni eich nodau. Yn ogystal â sesiynau grŵp byddwch yn cael amser un i un gyda'ch tiwtor i drafod materion a gosod targedau pwrpasol.

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o fod â 3 TGAU Graddau D-F. Gydag o leiaf un o’r rhain mewn Saesneg iaith neu Fathemateg. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, ac ar sail eu hawydd ac ymrwymiad i gyflawni'r cwrs maent yn dymuno ei astudio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

O fy nghwrs Mynediad Galwedigaethol, byddwn wedi gallu symud ymlaen at gyrsiau coginio, gwyddoniaeth neu chwaraeon ymhlith eraill, ond dewisais gwrs cerddoriaeth. Roedd cael cynifer o gyfleoedd i ddewis o’u plith yn wych. Symudais ymlaen wedyn at Gerddoriaeth a Pherfformio Lefel 2 a Lefel 3. Fy ngham nesaf yw mynd i’r brifysgol.

Mathew Williams
Cyn-fyfyriwr Mynediad Galwedigaethol a Cherddoriaeth a Pherfformi