Twristiaeth

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2027 — 23 Mehefin 2028
Canolfan Technoleg Uwch
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sydd eisiau symud ymlaen i ddysgu pellach ar lefel 3 neu i rôl deithio a thwristiaeth berthnasol.  Mae’n arbennig o berthnasol i'r rhai 16-18 oed sy’n ymgymryd â rhaglen fawr o astudio llawn amser, ond mae hefyd yn berthnasol i ddysgwyr sy’n oedolion sydd efallai’n newid gyrfa neu’n dechrau mewn diwydiant newydd.  Cyflwynir y cwrs gan ddarlithwyr sydd â blynyddoedd lawer o brofiad a chymwysterau cysylltiedig â diwydiant a fydd yn cefnogi ac yn annog brwdfrydedd dros deithio a thwristiaeth.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Gallai Gwasanaethau Cwsmeriaid ym maes Teithio a Thwristiaeth, Diwydiant Teithio a Thwristiaid y DU sef yr unedau astudio gorfodol ac ychwanegol, gan gynnwys Cyrchfannau Teithio a Thwristiaeth, Twristiaeth Arfordirol y DU, Cyflwyniad i Deithiau Tywys, Cynllunio Gyrfa ym maes Teithio a Thwristiaeth, Deall Twristiaeth Arbenigol.  Bydd dysgwyr hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol neu raglenni ailsefyll TGAU mewn Saesneg neu Fathemateg.

Gofynion mynediad

Bydd angen y canlynol arnoch: 4 TGAU ar raddau A*–D, neu Ddiploma Lefel 1 mewn Twristiaeth; gradd D neu uwch mewn TGAU Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf), neu lwyddo yn y cymhwyster Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Cyfathrebu; a gradd D neu uwch mewn TGAU Mathemateg, neu lwyddo yn y cymhwyster Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Rhifedd. Byddwch yn mynychu digwyddiad cwrs i ddysgu mwy am eich pwnc a'r coleg.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2027

Dyddiad gorffen

23 Mehefin 2028

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Canolfan Technoleg Uwch
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

LTCR2F40
L2

Cymhwyster

Travel & Tourism

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Cefais fy nenu at CAVC oherwydd credwn y byddai amgylchedd y coleg yn un addas imi – gan fy mod eisiau astudio rhywbeth sydd wir yn mynd â’m bryd. Teimlwn y gallai Coleg Caerdydd a’r Fro gynnig llawer mwy na dim ond fy nghwrs gan fy mod yn aelod o’r Academi Pêl-rwyd ac yn gynrychiolydd cwrs.
Fy hoff beth ynghylch y cwrs Teithio a Thwristiaeth yw pa mor amrywiol ydyw – doedden ni byth yn sownd yn yr ystafell ddosbarth. Yn ystod y cwrs, cawsom gyfle i dreulio pythefnos yn Palma yn gwneud profiad gwaith, a dysgu mewn amgylchedd ymarferol.
Ers gorffen fy nghwrs, rwyf wedi symud ymlaen i weithio i Swissport ym Maes Awyr Caerdydd.

Chloe Hobbs
Cyn-ddysgwr Teithio a Thwristiaeth Lefel 3, sydd nawr yn gweithio ym Maes Awyr Caerdydd

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

65,000

Mae’r diwydiant Twristiaeth yng Nghymru werth £6.3 biliwn. Ar hyn o bryd, mae tua 65,000 o bobl yn cael eu cyflogi ym Mhrifddinas- Ranbarth Caerdydd. Rhagwelir y bydd twf o bron i 5% yn hyn, gan arwain at 3,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025 (EMSI 2021).

Gall dysgwyr symud ymlaen i raglen astudio lefel 3 neu ymuno â’r diwydiant teithio a thwristiaeth.

Lleoliadau

Canolfan Technoleg Uwch
Canolfan Technoleg Uwch

Canolfan Technoleg Uwch
Parth Menter Maes Awyr Caerdydd
Port Road
Y Rhws
Y Barri
CF62 3BD