Twristiaeth

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws y Barri
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sydd eisiau symud ymlaen i ddysgu pellach ar lefel 3 neu i rôl deithio a thwristiaeth berthnasol.  Mae’n arbennig o berthnasol i'r rhai 16-18 oed sy’n ymgymryd â rhaglen fawr o astudio llawn amser, ond mae hefyd yn berthnasol i ddysgwyr sy’n oedolion sydd efallai’n newid gyrfa neu’n dechrau mewn diwydiant newydd.  Cyflwynir y cwrs gan ddarlithwyr sydd â blynyddoedd lawer o brofiad a chymwysterau cysylltiedig â diwydiant a fydd yn cefnogi ac yn annog brwdfrydedd dros deithio a thwristiaeth.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Gallai Gwasanaethau Cwsmeriaid ym maes Teithio a Thwristiaeth, Diwydiant Teithio a Thwristiaid y DU sef yr unedau astudio gorfodol ac ychwanegol, gan gynnwys Cyrchfannau Teithio a Thwristiaeth, Twristiaeth Arfordirol y DU, Cyflwyniad i Deithiau Tywys, Cynllunio Gyrfa ym maes Teithio a Thwristiaeth, Deall Twristiaeth Arbenigol.  Bydd dysgwyr hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol neu raglenni ailsefyll TGAU mewn Saesneg neu Fathemateg.

Gofynion mynediad

4 TGAU Gradd A*-D. Saesneg Iaith a/ neu Fathemateg (neu gyfwerth ) yn ddymunol neu Ddiploma Lefel 1 perthnasol mewn Teithio a Thwristiaeth.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

"Mae sawl cyfle fel ymweliadau astudio y gallwn eu cael ar hyd y fford. Mae’r profiad cyfan yn gwbl wych! Mae’r Coleg wedi fy helpu gyda fy ngyrfa yn y dyfodol gan fod llawer o help ar gael. Mae yna bobl y gallaf sirad â nhw a rhaglenni fel y rhaglen Barod am Yrafoedd. Mae gan y tiwtoriaid lawer o brofiad yn y gwethle felly maent yn gallu fy helpu."

Sean Fairman
Cyn-fyfyriwr Teithio a Thwristiaeth Lefel 3

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

65,000

Mae’r diwydiant Twristiaeth yng Nghymru werth £6.3 biliwn. Ar hyn o bryd, mae tua 65,000 o bobl yn cael eu cyflogi ym Mhrifddinas- Ranbarth Caerdydd. Rhagwelir y bydd twf o bron i 5% yn hyn, gan arwain at 3,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025 (EMSI 2021).

Gall dysgwyr symud ymlaen i raglen astudio lefel 3 neu ymuno â’r diwydiant teithio a thwristiaeth.