Hon yw blwyddyn gyntaf cwrs 2 flynedd Lefel 3, lle gellir ennill Tystysgrif yn y flwyddyn gyntaf, neu Ddiploma os cwblheir y ddwy flynedd.
Ochr yn ochr â’r cwrs hwn, bydd Tystysgrif Lefel 2 Criw Caban yn cael ei darparu i gynnig amrywiaeth pellach a mewnwelediad i’r diwydiant. Cyflawnir hyn os cwblheir y ddwy flynedd.
Mae unedau’n cynnwys:
5 TGAU A* - C gan gynnwys Iaith Saesneg a/neu Fathemateg (neu gyfatebol) neu Ddiploma Lefel 2 mewn Teithio a Thwristiaeth neu faes tebyg
Aseiniadau parhaus gan gynnwys gwaith cwrs a phrofion sgiliau ar-lein.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Cefais fy nenu at CAVC oherwydd credwn y byddai amgylchedd y coleg yn un addas imi – gan fy mod eisiau astudio rhywbeth sydd wir yn mynd â’m bryd. Teimlwn y gallai Coleg Caerdydd a’r Fro gynnig llawer mwy na dim ond fy nghwrs gan fy mod yn aelod o’r Academi Pêl-rwyd ac yn gynrychiolydd cwrs.
Fy hoff beth ynghylch y cwrs Teithio a Thwristiaeth yw pa mor amrywiol ydyw – doedden ni byth yn sownd yn yr ystafell ddosbarth. Yn ystod y cwrs, cawsom gyfle i dreulio pythefnos yn Palma yn gwneud profiad gwaith, a dysgu mewn amgylchedd ymarferol.
Ers gorffen fy nghwrs, rwyf wedi symud ymlaen i weithio i Swissport ym Maes Awyr Caerdydd.
Gall dysgwyr symud ymlaen i’r Diploma 2il flwyddyn neu fynd i’r diwydiant teithio a thwristiaeth.