Datglowch eich potensial gyda’n cwrs Datblygu’r Rheng Flaen arloesol, wedi ei gyd-ddylunio gydag arweinwyr y diwydiant gan gynnwys CCAF, Grŵp Sgiliau FinTech Wales, a sefydliadau Technoleg blaenllaw. Mae’r rhaglen hon wedi ei theilwra i ddelio â’r bylchau sgiliau yn y diwydiant technoleg, gan eich darparu â sgiliau sydd â galw mawr amdanynt a chymwysterau gwerthfawr i hybu eich rhagolygon gyrfa.
Mae Rheng Flaen yr Academi Godio yn cynnwys HTML, CSS, UX a Dylunio UI ar gyfer rôl sy’n canolbwyntio ar ddelio â chwsmeriaid.
Pam astudio gyda CCAF?
Rydym yn cynnig cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar y Diwydiant ac sydd wedi ei ddylunio gyda mewnbwn gan sefydliadau Technoleg blaenllaw. Byddwch yn ennill cymwysterau gwerthfawr ac yn datblygu sgiliau meddal craidd.
Buddion Arbennig:
P’un a ydych newydd adael yr ysgol, wedi graddio o’r brifysgol, neu yn rhywun sydd eisiau ail-sbarduno eu gyrfa, mae’r rhaglen hon wedi ei dylunio i’ch darparu â’r sgiliau y mae sefydliadau Technoleg yn eu gwerthfawrogi.
Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!
Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno drwy sesiynau wyneb yn wyneb wedi eu hwyluso, dysgu strwythuredig a chymorth un-i-un o 9.30am - 4pm, 5 diwrnod yr wythnos, am 11 wythnos.
Mentrwch i gwricwlwm cynhwysfawr:
Caledwedd a Meddalwedd
Byddwch angen gliniadur gyda manylebau isaf i redeg y meddalwedd angenrheidiol. Darllenwch yr adran ‘Cyfleusterau’ isod i weld os yw eich gliniadur chi yn briodol ar gyfer y meddalwedd angenrheidiol.
Os nad oes gennych ddefnydd o liniadur, gallwch fenthyg un yn ystod amseroedd yn y dosbarth yn unig.
Ymgysylltu â chyflogwyr
Mae sefydliadau Technoleg lleol sy’n bartneriaid wedi ymrwymo i gyfweld pob unigolyn sy’n cwblhau’r modiwlau angenrheidiol. Noder, nid yw hyn yn addo swydd.
Mae’r cyfle Academi a Chyfweliad hwn wedi ei ddylunio i’ch darparu â’r sgiliau a’r profiadau i wella eich hyder wrth ymgeisio am swyddi yn y dyfodol.
Cymorth Ariannol
Os oes gennych chi unrhyw gyfyngiadau ariannol neu rwystrau rhag mynychu'r academi, mae cymorth ariannol hefyd ar gael (e.e., tuag at ofal plant, costau teithio).
Ni allwch hawlio’r lwfans hyfforddiant o £150 yr wythnos na’r cymorth ariannol hyd nes eich bod wedi dechrau’r cwrs ac mae’n dibynnu ar eich presenoldeb drwy gydol y cwrs.
Noder, efallai y bydd y lwfans hyfforddiant yma’n effeithio ar unrhyw fudd-daliadau rydych chi'n eu derbyn.
Byddwch angen gliniadur gyda manylebau isaf i redeg y meddalwedd angenrheidiol.
Gwiriwch eich gliniadur i sicrhau bod ganddo'r gofynion isaf sydd eu hangen ar gyfer rhedeg y meddalwedd [Intel i3 - 3.40Ghz neu well ac o leiaf 8GB o ram neu AMD Ryzen 5 - 3.2Ghz neu well ac o leiaf 8GB o ram].
Meddalwedd
Mynediad llawn at y meddalwedd/gwefannau safonol canlynol:
Mynediad llawn at y meddalwedd pwrpasol canlynol a’r llyfrgelloedd cyfan:
Dolenni i feddalwedd:
https://www.anaconda.com/products/distribution
https://docs.microsoft.com/en-us/sql/ssms/download-sql-server-management-studio
https://www.microsoft.com/en-gb/sql-server/sql-server-downloads
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cael mynediad at y meddalwedd uchod, siaradwch gyda'ch tiwtor a/neu gyswllt CCAF a fydd yn gallu eich cefnogi chi gyda datrysiad amgen.
Gofynion hanfodol:
• Bod yn 19+ oed
• Bod yn byw yng Nghymru
• Ddim mewn addysg llawn amser
• Bod ag A*- C mewn TGAU Saesneg, neu ILETS lefel 5+, neu Ascentis ESOL L2 neu uwch
• Bod â dawn a brwdfrydedd dros godio (neu gymhwyster mewn maes pwnc yn y sector perthnasol). Ar ôl cofrestru eich diddordeb, cewch eich gwahodd i gyfweliad
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch wedyn yn cael eich gwahodd i lenwi ffurflen gais ar-lein.
"Mae'r cwrs wedi fy rhoi sgiliau gwerthfawr i mi sydd wir yn chwenychedig o fewn y diwydiant FinTech. Mae wedi rhoi'r hyder i mi ymgeisio am amrywiaeth o swyddi ac rydw i'n gyffrous wrth feddwl am yr holl gyfleoedd y bydd yn ei ddod." A. Peart, Academi Codio 2022
"Rwy'n hynod o ddiolchgar i CCAF am ddarparu'r cwrs wnes i ei fwynhau'n fawr. Rwyf wir yn gwerthfawrogi'r cyfle ac fe wnaeth y cwrs gyflawni ei fwriad drwy alluogi i mi ddechrau cyflogaeth mewn Fintech yn ne Cymru." L. Crews, Academi Codio 2022
Cymysgedd o arholiad(au) ac asesiad.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae sefyliadau partner Technoleg lleol yn ymrymo i gyfweld pawb sy’n cwblhau’r modiwlau gofynnol.