HND mewn Cyfrifiadura

L5 Lefel 5
Rhan Amser
10 Medi 2024 — 17 Mai 2027
Campws y Barri

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r cwrs HND mewn Cyfrifiadura hwn ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno ennill cymhwyster Cyfrifiadura Lefel Uwch neu sy’n gweithio yn y diwydiant TG a Chyfrifiadura.  Mae’n addas ar gyfer unigolion sy’n gweithio mewn TG neu sy’n awyddus i symud ymlaen yn eu gyrfa.

Addysgir y dysgwyr drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gwaith ymarferol mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf a defnydd o Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE). Mae’r dulliau o asesu yn gwahaniaethu ar gyfer bob modiwl a astudir; defnyddir gwaith aseiniad, arholiadau neu brofion drwy gydol y rhaglen.

Mae hwn yn ddiwydiant deinamig fydd yn cael effaith sylweddol ar ein datblygiad a ffyniant economaidd yn y dyfodol.    

Beth fyddwch yn ei astudio?

Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:

Blwyddyn 1:

  • Rhaglennu
  • Rhwydweithio
  • Ymarfer Proffesiynol
  • Dylunio a Datblygu Cronfeydd Data
  • Dylunio a Datblygu Gwefannau
  • Cylchoedd bywyd o ddatblygiadau meddalwedd

Blwyddyn 2:

  • Diogelwch
  • Cynllunio Prosiect Cyfrifiadura
  • Cymorth Proses Busnes
  • Cyfrifiadura Cwmwl
  • Datblygiadau Gemau

Blwyddyn 3:

  • Prosiect Ymchwil Cyfrifiadura
  • Gwaith Fforensig
  • Rhaglennu Uwch ar gyfer Dadansoddi data
  • Dadansoddi Risg a Phrofi Systemau

Gofynion mynediad

48 pwynt tariff UCAS wedi'u hennill o un o’r canlynol:

  • Cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn cyfrifiadura
  • Proffil TAG Lefel Uwch sy'n arddangos perfformiad amlwg mewn pwnc perthnasol neu berfformiad priodol mewn mwy nag un pwnc TAG. Mae'r proffil hwn yn debygol o gael ei gefnogi gan raddau TGAU A* i C (neu gyfwerth), a/neu 9 i 4 (neu gyfwerth) mewn pynciau megis mathemateg a Saesneg
  • Cymwysterau Lefel 3 perthnasol eraill
  • Mynediad at Ddiploma Addysg Uwch sy'n cael ei dyfarnu gan sefydliad addysg bellach a gymeradwywyd
  • Cymhwyster rhyngwladol cyfwerth o'r uchod.
  • Os nad yw Saesneg yn iaith gyntaf i ymgeiswyr, byddant angen tystiolaeth o IELTS 5.5 (mae'n rhaid iddynt allu darllen ac ysgrifennu ar 5.5) neu gyfwerth
  • Mae angen cyfweliad llwyddiannus hefyd

Bydd CAVC hefyd yn ystyried dysg flaenorol ymgeiswyr wrth ystyried eu cais am y rhaglen drwy Gydnabod Dysgu Blaenorol.

Ystyrir ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sydd heb y gofynion mynediad sylfaenol ond sydd â phrofiad gwaith perthnasol.


Amseroedd cwrs

Dydd Mawrth & dydd Iau, 2.30 - 8.30.

Addysgu ac Asesu

  • Mae myfyrwyr yn mynychu am 34 wythnos y flwyddyn ar y rhaglen rhan amser
  • Mae'r rhaglen ar ffurf fodwlar a bydd myfyrwyr yn astudio cyfwerth â 90 credyd yn ystod eu blwyddyn gyntaf o astudiaeth ac yna 75 credyd ar ôl hynny.
  • Mae'r dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd, sesiynau rhoi gwybodaeth i grwpiau cyfan, gweithdai, tiwtorialau, gwaith ymarferol, a beirniadaeth grŵp ac e-ddysgu cyfunol.
  • Lle bo'n bosib, mae elfen asesu'r cwrs wedi'i dylunio i efelychu'r amrywiaeth o dasgau y gall graddedigion y rhaglen ddod ar eu traws mewn cyflogaeth berthnasol. Defnyddir dulliau asesu academaidd eraill hefyd, megis arholiad ffurfiol, lle bo’n angenrheidiol.
  • Bydd y gwaith ymarferol yn adlewyrchu technegau'r byd go iawn y byddai ymarferwyr yn dod ar eu traws mewn cyfrifiadura

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Fe wnes i fwynhau’r holl wahanol unedau ac aseiniadau oedd angen llawer o ymchwil ar fy nghwrs. Fy hoff beth am CAVC ydy fod y cyfleusterau ar gael i ni eu defnyddio 24/7.”

Heather Curtis Rich
Astudio Technoleg Gwybodaeth a Chyfrifiadura

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).

Gall ymgeiswyr sy'n cyflawni'r cymwysterau hyn fynd ymlaen i astudio cymwysterau academaidd a phroffesiynol pellach neu ddilyn gyrfa weinyddol, rheoli neu fasnachol.