Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

L1 Lefel 1
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Dwyrain Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Cwrs rhagarweiniol yw hwn sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny sy'n gadael ysgol ac sy'n dymuno dechrau yn y maes iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal plant. Mae'r cwrs yn cynnig unedau rhagbaratoal ar amrywiaeth o bynciau sy'n cynnig mewnwelediad i ofynion allweddol gweithiwr proffesiynol iechyd /gofal cymdeithasol/ gofal plant. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o fodiwlau damcaniaethol ac ymarferol a fydd yn rhoi cipolwg i'r dysgwr ar faes buddiol iechyd a gofal. Bydd y dysgwr yn ymgymryd â 15 uned sy'n seiliedig ar aseiniadau. Does dim elfen arholiad i'r cwrs. Bydd y myfyriwr hefyd yn ailsefyll pwnc TGAU ochr yn ochr â'i brif gymhwyster.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r meysydd astudio yn cynnwys cymysgedd o fodiwlau sy'n gysylltiedig ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol a modiwlau sy'n gysylltiedig â Gofal Plant. Mae modiwlau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys:

  • Gweithio mewn partneriaeth
  • Cyflwyniad i Iechyd Meddwl
  • Colled Synhwyraidd a Chynhwysiant ac Anabledd.

Mae modiwlau gofal plant yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i'r Blynyddoedd Cynnar
  • Gofal Corfforol o Fabanod a Phwysigrwydd Chwarae.

Mae'r unedau allweddol yn cynnwys Diogelu, Cyfathrebu ac Iechyd a Diogelwch.

Gofynion mynediad

2 TGAU gradd D gyda D mewn TGAU Saesneg Iaith neu Gymraeg Gwaith ac E mewn TGAU Mathemateg.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy...

Fideos
Dysgu Dwyieithog
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

“Mae’r tiwtoriaid yn hynod gefnogol a deallgar. Rwy’n gobeithio symud ymlaen i fod yn gymhorthydd addysgu cymwys.”

Grace McDonald
Myfyriwr Gofal Plant Lefel 2 presennol

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

103,500

Ar hyn o bryd, mae bron i 103,500 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a disgwylir i’r niferoedd cyflogaeth gyrraedd 105,000 erbyn 2027 (Lightcast 2022).

Ar ôl cwblhau lefel 1 Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) ac ailsefyll TGAU yn llwyddiannus, gall myfyrwyr ddewis llwybr dilyniant naill ai i Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar lefel 2 neu Ofal Plant ar lefel 2. Mae'r ddau gwrs lefel 2 yn cynnig cyfle i symud ymlaen i lefel 3 a thu hwnt.