Iechyd a Gofal Cymdeithasol

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn yn addas i:

  • Dysgwyr sy'n 16 oed neu hŷn sy'n gweithio ar hyn o bryd, neu'n bwriadu gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • Gweithiwr gofal cymdeithasol (oedolion)
  • Gweithiwr gofal cymdeithasol (plant a phobl ifanc)
  • Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd
  • Cynorthwyydd Gofal Iechyd.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae cynnwys y cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o:

  • Yr egwyddorion a gwerthoedd craidd sy'n sail i arfer iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Ffyrdd o weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Arfer effeithiol o fewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Llwybrau datblygu ar astudiaeth bellach neu gyflogaeth mewn diogelu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Gofynion mynediad

3 TGAU A*-C. C mewn Iaith Saesneg, D mewn Mathemateg (ni dderbynnir rhifedd).

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy...

Fideos
Dysgu Dwyieithog
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

“Mae’r tiwtoriaid yn hynod gefnogol a deallgar. Rwy’n gobeithio symud ymlaen i fod yn gymhorthydd addysgu cymwys.”

Grace McDonald
Myfyriwr Gofal Plant Lefel 2 presennol

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

103,500

Ar hyn o bryd, mae bron i 103,500 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a disgwylir i’r niferoedd cyflogaeth gyrraedd 105,000 erbyn 2027 (Lightcast 2022).

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, gall dysgwyr symud ymlaen i’r cwrs Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu brentisiaeth yn y diwydiant.