L2 Lefel 2
Llawn Amser
8 Medi 2026 — 18 Mehefin 2027
Campws Dwyrain Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn astudio cwrs mynediad ym maes gofal, ond sydd angen ennill graddau TGAU addas er mwyn symud ymlaen. Bydd y cwrs yn cefnogi’r daith honno ac yn galluogi dysgwyr i ennill y cymhwyster damcaniaeth i weithio ym maes gofal.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd dysgwyr yn cyflawni cymwysterau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg, ynghyd â’r cymhwyster craidd mewn Iechyd a Gofal.

Gofynion mynediad

3+ blynedd allan o fyd addysg. Bydd angen i ddysgwyr sefyll prawf sgrinio Mathemateg a Saesneg i asesu man cychwyn eu sgiliau ar gyfer datblygiad drwy gydol y flwyddyn.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

8 Medi 2026

Dyddiad gorffen

18 Mehefin 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Dwyrain Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ACEH2F06
L2

Cymhwyster

Pre Access to Care

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Gall dysgwyr sydd wedi cyflawni'r cwrs hwn symud ymlaen i gymhwyster mynediad i Addysg Uwch yn unrhyw un o’r pynciau gofal.

Lleoliadau

Campws Dwyrain Caerdydd
Campws Dwyrain Caerdydd

Heol Trowbridge, 
Caerdydd, 
CF3 1QL