Tystysgrif Graddedig Proffesiynol (TGP) Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR)

L6 Lefel 6
Rhan Amser
10 Medi 2026 — 16 Mai 2028
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol) yn eich cymhwyso i ddysgu yn y sector addysg bellach, addysg oedolion ac addysg alwedigaethol.  Mae’n gymhwyster dysgu llawn sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol sy’n anelu i ddatblygu sgiliau, hyder a dealltwriaeth o addysgu, dysgu ac asesu mewn pynciau academaidd sy’n cynnwys Busnes a TG, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Dyniaethau, Gwyddoniaeth a’r Celfyddydau.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cwrs hwn yn paratoi ymgeiswyr ar gyfer dysgu o fewn y sector Ôl-orfodol ac astudio pellach. Mae’n cynnwys chwe modiwl 20 credyd sy’n cael eu darparu mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol a’u hasesu drwy aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol. 


Blwyddyn 1 
Cynllunio ar gyfer Dysgu - Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno theori addysgu a dysgu a chaiff ei asesu drwy sesiwn dysgu gan gymheiriad 30 munud. 


Asesu ar gyfer Dysgu - Mae’r modiwl hwn yn cefnogi ymgeiswyr i ddeall a bodloni anghenion dysgwyr a chaiff ei asesu ar ddefnydd creadigol ac adolygiad technoleg fel dull o asesu.  


Datblygu Ymarfer Proffesiynol -  Mae’r modiwl hwn yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn ac mae’n cynnwys:  
Cynllunio a rheoli 50 awr o sesiynau a ddysgir 
Arsylwi ar weithwyr proffesiynol eraill (20 awr) 
Adfyfyrio, gwerthuso ymarfer a chynllunio gweithredu ar gyfer datblygiad proffesiynol yn rheolaidd 
Tair sesiwn dysgu wedi’u hasesu 
Cyflwyno adfyfyriad ar ddigwyddiad critigol 


Blwyddyn 2 
Ymchwil yn seiliedig ar Arfer - Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i ymgysylltu gyda gwaith ymchwil gweithredol gyda ffocws ar faes o fewn dysgu proffesiynol. Bydd y modiwl hwn yn cael ei asesu drwy gynnig ymchwil ysgrifenedig a chyflwyniad ac adroddiad am ganfyddiadau ymchwil.    

Llythrennedd ar gyfer Dysgu - Mae’r modiwl hwn yn archwilio syniadau am bob math o lythrennedd (digidol, gweledol, graffigol, ysgrifenedig ac ati) mewn bywyd bob dydd ac o fewn addysgu a dysgu. Bydd y modiwl yn cael ei asesu drwy arddangosfa hwyliog a rhyngweithiol. 

Ymestyn Ymarfer Proffesiynol - Mae’r modiwl hwn yn adeiladu ar y dysgu proffesiynol o fewn Datblygu Ymarfer Proffesiynol, gan edrych y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth tuag at y dirwedd addysg ôl-orfodol. Mae’r modiwl hwn yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn ac mae’n cynnwys:  
Cynllunio a rheoli 50 awr o sesiynau a ddysgir 
Arsylwi ar weithwyr proffesiynol eraill (20 awr) 
Adfyfyrio, gwerthuso ymarfer a chynllunio gweithredu ar gyfer datblygiad proffesiy

Ffïoedd cwrs

Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1: £2,835.00

Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 2: £2,835.00

Gofynion mynediad

Gradd, neu gymhwyster a gydnabyddir sy’n gyfwerth mewn maes pwnc perthnasol.  Mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn sicrhau lleoliad addysgu cyn iddynt ddechrau’r cwrs. Rhaid i hyn fod o leiaf 50 o oriau addysgu’r flwyddyn. Yn ogystal â hyn, mae angen 20 awr y flwyddyn o gyfnod arsylwi tiwtor profiadol ar ymgeiswyr. Os nad Saesneg yw’ch iaith gyntaf dylech allu arddangos o leiaf lefel IELTS 6.5 neu gyfwerth (sgôr isafswm o 5.5 ym mhob band). Bydd angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) o’r Rhestr Gweithlu Plant a Gwahardd Plant arnoch hefyd ynghyd â thanysgrifiad i’r gwasanaeth Adnewyddu DBS.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

10 Medi 2026

Dyddiad gorffen

16 Mai 2028

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

5.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

PGCC6P07
L6

Cymhwyster

PgCE / PcET in Post compulsory Education and Training

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Oherwydd penodau gwahanol mewn bywyd, gadewais yr ysgol, es i’r coleg ac yna’n syth i’r gwaith. Ond addysgu oedd fy angerdd o hyd, felly un diwrnod meddyliais, ‘Beth am fynd amdani’. Dewisais Goleg Caerdydd a’r Fro gan fod ganddo enw da, mae’n lleol ac yn hawdd ei gyrraedd i mi. Dwi wedi mwynhau cael cwrdd â phobl newydd ac mae’r staff wedi bod yn ffantastig.

Muhammad Faiz Azman
Myfyriwr TAR
Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl cwblhau'r cwrs, gallwch ddilyn gyrfa fel ymarferydd AHO o fewn y sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, e.e. Addysg Bellach (AB), Darparwyr Hyfforddiant, Dysgu Oedolion a Chymunedol a Dysgu Seiliedig ar Waith.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE