Trin Gwallt

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 18 Gorffennaf 2025
Campws y Barri
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein cwrs Diploma NVQ Lefel 1 a 2 VTCT mewn Trin Gwallt (QCF) yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol ar gyfer dysgwyr sy’n ceisio gyrfa fel triniwr gwallt/steilydd iau cyflogedig a/neu hunangyflogedig. 

Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) Trin Gwallt Lefel 1 a 2, ac fe'i cydnabyddir gan brif gymdeithas broffesiynol trin gwallt y DU (Y Cyngor Trin Gwallt) fel y safonau addas ar gyfer paratoi dysgwyr am yrfa yn y sector. 

Bydd myfyrwyr yn astudio yng nghyfleusterau gwych y coleg, gan gynnwys ein salonau trin gwallt masnachol helaeth, sydd â chleientiaid sy’n talu i ddysgwyr weithio arnynt. Mae'r rhaglen hon wedi'i strwythuro i roi hyblygrwydd i ddysgwyr ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eu llwybr gyrfa dynodedig fel triniwr gwallt/steilydd gwallt iau. 

Yn ogystal â’ch cwrs Trin Gwallt, byddwch hefyd yn gweithio tuag at dystysgrif Lefel 1 NVZ mewn Gwasanaeth Cwsmer; Iaith ar Waith. Bydd hyn yn eich cyfarparu â’r sgiliau i weithio gyda chwsmeriaid, sy’n rhan sylweddol o’r diwydiant trin gwallt. 

Ochr yn ochr â hyn, bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid, a’u hymwybyddiaeth o sgiliau masnachol a chynaliadwyedd amgylcheddol, y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi’n fawr. Bydd sgiliau ymchwil a datrys problemau hefyd yn cael eu gwella. 

Bydd angen i fyfyrwyr brynu iwnifform, a fydd yn costio tua £50.00, esgidiau caeedig du fflat, pecyn trin gwallt a fydd yn costio tua £280.00, offer ysgrifennu a ffeiliau. Bydd yr holl ffurflenni archebu’n cael eu hanfon atoch ar ôl i chi gofrestru.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r holl unedau gorfodol, sy’n cynnwys:

Lefel 1 - wedi’i chwblhau erbyn mis Rhagfyr:

Cael gwared ar liw
Golchi a chyflyru’r gwallt
Sychu gwallt
Gweithio gydag eraill
Iechyd a diogelwch

Lefel 2:

- Iechyd a diogelwch
- Ymgynghoriadau â chleient
- Golchi, cyflyru’r Gwallt
- Torri
- Chwythsychu a steilio
- Lliwio
- Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith

Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau drwy gwblhau’r unedau arbenigol dewisol isod:

- Plethu a throelli gwallt
- Dyletswyddau derbynfa

Mae meysydd ychwanegol eraill yr ymdrinnir â nhw’n cynnwys Sgiliau Allweddol mewn Llythrennedd a Rhifedd.

Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau lleoliad gwaith fel rhan o'u cymhwyster llawn amser, a byddant hefyd yn cael cyfle i weithio o fewn amgylchedd masnachol prysur er mwyn datblygu eu gallu a sgiliau galwedigaethol.

Profiad Gwaith Salon: Cyfanswm o 245 o oriau.

Cyflawnir hyn drwy fynychu lleoliad gwaith mewn salon, yn ogystal â mynychu un noson hwyr yr wythnos a dim mwy na 6 dydd Sadwrn drwy gydol y cwrs yn Salon Urbasba.

Mae ffioedd ychwanegol yn cynnwys Ffi Salon gwerth £30.00 a ffi Iwnifform i’w chadarnhau pan fyddwch yn ymrestru.

Gofynion mynediad

3 Gradd TGAU A*- D yn cynnwys Saesneg Iaith (neu gyfwerth). Geirda boddhaol gan Diwtor Cwrs. Fel arall, Lefel 1 wedi’i chyflawni’n llwyddiannus a geirda boddhaol. Geirda boddhaol gan Ysgol neu Goleg i arddangos ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da NEU Addysg a phrofiad gwaith blaenorol. 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

"Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau.”

Freya Rees
Cyn-fyfyriwr Harddwch lefel 2 a 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Ar ôl cwblhau eich cwrs lefel 2 yn llwyddiannus, byddwch yn cael cyfle i symud ymlaen at y cwrs Trin gwallt lefel 3 llawn amser, Colur theatraidd lefel 3 neu Therapi harddwch lefel 2. 

Fel arall, gallwch ennill cyflogaeth mewn salon fel steilydd iau.