Trin Gwallt a Harddwch

L1 Lefel 1
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws y Barri
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r cwrs wedi cael ei ddylunio ar gyfer unigolion rhwng 16-19 oed, nad oes ganddynt brofiad, ac unigolion sydd wedi gadael yr ysgol, sydd wedi astudio'r Dystysgrif Trin Gwallt yn yr ysgol, ac eisiau symud ymlaen at y diploma a’r diwydiant trin gwallt.

Mae'r rhaglen wedi’i strwythuro i roi hyblygrwydd i ddysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth, dealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i gymhwyster Lefel 2 mewn Trin Gwallt a/neu Harddwch.

Yn cynnwys: Tystysgrif NVQ Lefel 1 mewn Trin Gwallt a Barbro (601/5885/2) + Triniaeth llaw a Thraed NVQ Lefel 2 Tystysgrif mewn Triniaethau Ewinedd (500/8915/8).

Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu sgiliau'r dysgwyr yn y canlynol:

  • siampŵ a chyflyru
  • chwythsychu
  • tynnu mathau gwahanol o liwiau
  • plethu a throelli gwallt

Yn ogystal â bod yn gyfrifol am leihau risgiau at iechyd a diogelwch, paratoi ar gyfer gwasanaethau gwallt a chynnal ardaloedd gweithio. Bydd hefyd yn cynnwys triniaeth dwylo a thraed Lefel 2. 

Hefyd, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymgymryd â phrofiad Gwaith mewn Salon/Sba weithredol a phrysur i gyfoethogi eu sgiliau.  Mae hyn yn ofynnol ar gyfer y cwrs Llawn amser.  Bydd gofyn i fyfyrwyr weithio ar ddyddiau Sadwrn ar sail rota.

Bydd gofyn i'r holl ddysgwyr wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) bob amser yn y salonau a'r clinig. Mae'n rhaid i'r dysgwr brynu'r wisg lawn. Mae hyn yn cynnwys tiwnig, trywsus ac esgidiau caeedig fflat.

Bydd y canlynol yn cael eu darparu gan y coleg:

  • Gorchudd Wyneb
  • Fisor
  • Ffedogau Plastig
  • Menig Llawfeddygol

Beth fyddwch yn ei astudio?

Bydd myfyrwyr yn cael eu goruchwylio gan staff technegol, ac yn cael eu hasesu ar eu cymhwysedd drwy nifer o ddulliau, gan gynnwys cymhwysedd ymarferol a phortffolio o dystiolaeth.  Bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau arholiadau allanol a phortffolios Sgiliau Hanfodol.

Mae'r meysydd ychwanegol yr ymdrinnir â nhw yn cynnwys:

  • ESW Llythrennedd a Rhifedd

Neu

  • Cyflogadwyedd a Llythrennedd Digidol 

Bydd dysgwyr yn cael cyfle i weithio o fewn amgylchedd masnachol prysur er mwyn datblygu eu sgiliau galwedigaethol a chymhwysedd. 

Wedi cwblhau'r cwrs yn llawn, byddwch yn gallu parhau â'n cyrsiau lefel 2 trin gwallt neu therapi harddwch, neu ein cwrs lefel 2 colur theatraidd.

Bydd gofyn i fyfyrwyr weithio ar ddyddiau Sadwrn ar sail rota 4 dydd Sadwrn yng nghampws Caerdydd, yn ogystal ag un diwrnod yr wythnos o brofiad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd.

Mae ffi Salon hefyd £30.00, ffi i brynu cit trin gwallt a fydd (tua £275.00) a chit harddwch a fydd (tua £93.00)  Ynghyd ag iwnifform a fydd yn costio oddeutu £60.00.

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU Gradd D-F. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'u hawydd a'u hymrwymiad i gwblhau'r cwrs y maent yn dymuno ei astudio.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiad parhaus gan gynnwys asesiadau ymarferol ac arholiadau

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

"Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau.”

Freya Rees
Cyn-fyfyriwr Harddwch lefel 2 a 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Mae'r cwrs yn gweithio at Lefel 2, fydd yn galluogi myfyrwyr i ennill cymhwyster Lefel 2 yn ystod y flwyddyn ganlynol.