Trin Gwallt

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws y Barri

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein cwrs Diploma NVQ Lefel 3 VTCT mewn Trin Gwallt (QFC) yn gymhwyster lefel technegol ar gyfer dysgwyr sy’n ceisio gyrfa fel triniwr/steilydd gwallt iau cyflogedig a/neu hunangyflogedig. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i seilio ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Trin Gwallt (NOS), ac yn cael ei gydnabod gan brif gymdeithas broffesiynol trin gwallt y DU (Y Cyngor Trin Gwallt) fel un sy’n addas at y diben er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer gyrfa fel uwch driniwr gwallt/steilydd.

Gan astudio yng nghyfleusterau gwych y coleg (gan gynnwys ein salonau gwallt masnachol sylweddol), mae’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i adeiladu ar eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o drin gwallt a bydd yn datblygu repertoire estynedig o sgiliau technegol i’w paratoi ar gyfer cyflogaeth o fewn y sector.  Bydd dysgwyr yn gweithio yn y salon masnachol a bydd eu sgiliau trin gwallt yn cael eu hasesu. 

Bydd gofyn i'r holl ddysgwyr wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) bob amser yn y salonau a'r clinig. Mae'n rhaid i'r dysgwr brynu'r wisg lawn. Mae hyn yn cynnwys tiwnig, trywsus ac esgidiau caeedig fflat.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yn holl elfennau sy’n ofynnol i weithio’n effeithiol fel uwch driniwr gwallt/steilydd:

  • Iechyd a diogelwch
  • Ymgynghori â chleientiaid
  • Torri creadigol
  • Lliwio gwallt creadigol
  • Steilio a gwisgo gwallt yn greadigol

Mae’r holl unedau hyn yn orfodol.

Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau ymhellach drwy gwblhau dwy uned arbenigol ar lefel 4:

  • Cywiriad lliw gwallt
  • Hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau

Mae meysydd ychwanegol yr ymdrinnir â hwy yn cynnwys:
Sgiliau Allweddol mewn Llythrennedd, Rhifedd, Cymhwysedd Digidol a Chyflogadwyedd. 
Cymysgedd o ddysgu cyfunol - gan ddefnyddio cymwysiadau Microsoft i gefnogi datblygiad technoleg a chynnwys amcanion datblygiad personol. 

Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau cystadleuaeth er mwyn gwella hyder a chreadigrwydd.

Gweithgareddau profi dan bwysau i ymestyn a herio dysgu.

Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau lleoliad gwaith fel rhan o'u cymhwyster llawn amser, ac yn cael cyfle i weithio o fewn amgylchedd masnachol prysur.

Gofynion mynediad

Cyflawni Diploma Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus (Gwallt). Cyfweliad a geirda boddhaol gan Diwtor y Cwrs yn dynodi ymddygiad da, presenoldeb boddhaol a chynnydd. Bydd Dysgu Blaenorol a phrofiad gwaith yn cael eu hystyried hefyd.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiadau parhaus, asesiadau ymarferol ac arholiadau

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

"Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau.”

Freya Rees
Cyn-fyfyriwr Harddwch lefel 2 a 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).
  • Cyflogaeth
  • Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, efallai y byddwch chi'n gallu symud ymlaen i astudio cymhwyster Gwallt Lefel 2 neu Therapi Harddwch Lefel 2. Byddwch yn cael eich cefnogi trwy gydol eich astudiaethau i gyflawni'ch llawn botensial ac i fodloni gofynion proffesiynol y diwydiant.