Sylfeini gweithio ym maes Gwallt a Harddwch

EL3 Lefel Mynediad 3
Llawn Amser
1 Medi 2026 — 22 Mehefin 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae hwn yn gwrs cyflwyniadol sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n gadael yr ysgol ac sy'n dymuno ymuno â'r Diwydiant Gwallt a Harddwch. Mae'r cwrs yma wedi'i gynllunio fel bod dysgwyr yn datblygu eu hyder, eu gwydnwch, a'u dealltwriaeth o hunanreoleiddio wrth iddyn nhw ennill sgiliau a gwybodaeth sy'n berthnasol i weithio yn y diwydiant Gwallt a Harddwch.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o fodiwlau theori ac ymarferol a fydd yn cynnig cipolwg ar sut beth yw gweithio yn y diwydiant gwallt a harddwch. Mae'r cwricwlwm yn cydnabod bod dysgwyr ar y cwrs yma’n dechrau eu haddysg coleg gyda gwahanol brofiadau o addysg, ac mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ddatblygu'r gallu i weithio ar y cyd ac yn annibynnol.

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o fod â 3 TGAU Graddau D-F. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a chipolwg ar eu sgiliau perthnasol, a'r rheiny sydd â'r awydd a'r ymrwymiad i gyflawni'r cwrs y dymunant ei astudio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2026

Dyddiad gorffen

22 Mehefin 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

FLCCFHB01
EL3

Cymhwyster

Foundations of Hair and Beauty

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Bydd dysgwyr sy'n cwblhau'r cwrs yma’n llwyddiannus gyda Chlod yn gallu symud ymlaen i gwrs mewn gwallt neu harddwch y flwyddyn ganlynol.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE