L2 Lefel 2
Rhan Amser
9 Medi 2025 — 7 Mehefin 2026
Campws y Barri
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynglŷn â'r cwrs

Mae dosbarthiadau nos TGAU Mathemateg Canolradd (17.45 tan 20.45) ar gael ar unrhyw un o'r dyddiau canlynol: Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher neu ddydd Iau. Neu amrywiol adegau o'r dydd ar gyfer myfyrwyr llawn amser.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae hwn yn gwrs un flwyddyn ac yn cwmpasu pedwar prif faes mathemateg: algebra, geometreg a thebygolrwydd; rhifau; mesur ac ystadegau.

Mae’r TGAU yn un o ddau TGAU seiliedig ar fathemateg (y llall yw TGAU Mathemateg-Rhifedd) a gellir ei astudio gyda neu heb TGAU Mathemateg-Rhifedd. Mae gan y TGAU Mathemateg holl gynnwys TGAU Mathemateg-Rhifedd gyda chynnwys atodol ym meysydd algebra, geometreg a thebygolrwydd.

Dylai myfyrwyr llawn amser astudio’r pwnc hwn ar y cyd â thri neu bedwar pwnc arall yn rhan o’r rhaglen TGAU neu gwrs astudio llawn amser arall.

Mae yna ddau arholiad ym Mehefin, un gyda chyfrifiannell ac un heb.

Amseroedd cwrs

Campws Canol y Dinas:

  • 17:45-20:45 Dydd Llun
  • 17:45-20:45 Dydd Mawrth
  • 17:45-20:45 Mercher
  • 17:45-20:45 Dydd Iau

Campws y Barri:

  • 17:45-20:45 Dydd Mawrth Colcot

Ar-lein:

  • 17:45-20:45 Dydd Llun
  • 17:45-20:45 Dydd Iau

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad ysgrifenedig

Gofynion mynediad

Mae tystiolaeth o gymhwyster TGAU Mathemateg Gradd D neu Lefel 2 Sgiliau Allweddol Cymhwyso Rhif yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol. Os yw Saesneg yn ail iaith neu’n iaith arall, mae angen tystiolaeth o Lefel 2 Mathemateg a IELTS 6.0. Ni all dysgwyr ymrestru ar gyfer y dosbarth gyda'r nos hwn yn ogystal â chwrs llawn amser.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

9 Medi 2025

Dyddiad gorffen

7 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

4 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

GCCR2F15
L2

Cymhwyster

Mathematics - GCSE

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ