Mae TGAU Saesneg Iaith yn gwrs blwyddyn dwys sy'n canolbwyntio ar sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando. Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at fyfyrwyr hŷn.
Byddwch yn ymdrin â phynciau fel darllen ac ysgrifennu creadigol, barn a safbwyntiau, ac archwilio gwahanol arddulliau ysgrifennu a mathau o destunau.
Byddwch yn dysgu sut mae iaith yn cael ei defnyddio i ymgysylltu, dadlau, dwyn perswâd a disgrifio drwy amrywiol weithgareddau gan gynnwys darllen a dadansoddi testunau, cynllunio ac ysgrifennu gwahanol fathau o destunau, cyflwyniadau a thrafodaethau.
Mae'r asesiad yn gyfuniad o asesiad dan reolaeth ac arholiad ar draws tair Uned Astudio.
Uned 1: Asesiad Llafar Dan Reolaeth: dwy dasg iaith lafar 20% o'r radd TGAU cyffredinol Arholiad.
Uned 2 a 3 Mai/Mehefin: darllen a deall a sgiliau ysgrifennu. 80% o raddau TGAU cyffredinol.
Ffi Arholiad : £35.00
Ffi Cofrestru: £45.00
Ffi Cwrs: £380.00
Ffi gyda gostyngiad (Bwrsari): £0.00
Rhaid i ddysgwyr gael tystiolaeth o radd C+ TGAU Iaith Saesneg, neu fod wedi cyflawni gradd D yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Dylai dysgwyr a enillodd: radd D fwy na dwy flynedd yn ôl, gradd îs na D, neu gymhwyster amgen lefel dau Saesneg (ESW, IELTS 6.0, Caergrawnt) wneud cais ar gyfer un o’n cyrsiau sy’n cychwyn ym mis Medi. Ni all dysgwyr ymrestru ar gyfer y dosbarth gyda'r nos hwn yn ogystal â chwrs llawn amser.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.