Cwrs blwyddyn o hyd yw'r cymhwyster hwn i gwnselwyr sydd wedi ennill Diploma Lefel 4 CPCAB mewn Cwnsela Therapiwtig neu gymhwyster cyfwerth. Bydd ymarferwyr yn mynd ati'n fanwl i wella'u gwybodaeth a'u sgiliau cwnsela a seicotherapi, gan ddatblygu eu hathroniaeth ymarfer eu hunain.
Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i roi gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau i ddysgwyr, er mwyn sefydlu fframwaith priodol ar gyfer ymarfer annibynnol. Mae'r cymhwyster hefyd yn galluogi dysgwyr i gyflawni rôl uwch gwnselydd yng nghyd-destun sefydliad, lle bo asesu, atgyfeirio a gwerthuso'r cleient yn rheolaidd yn rhan o'r rôl. Sylwch ein bod yn disgwyl ardystiad gan CPCAB i ddarparu'r cwrs hwn, a ddisgwylir ym mis Mai 2024.
Ceir 7 uned orfodol:
Uned 1 - Gweithio'n ddiogel, yn gyfreithlon ac yn foesegol fel cwnselydd annibynnol.
Uned 2 - Gweithio gydag agweddau cymhleth ar y berthynas gwnsela.
Uned 3 – Defnyddio damcaniaeth ac ymchwil i weithio gydag amrywiaeth cleientiaid wrth ymarfer yn annibynnol.
Uned 4 – Defnyddio dull cydlynol o ymateb i anghenion cleientiaid unigol.
Uned 5 – Gweithio gyda hunanymwybyddiaeth fel ymarferydd annibynnol.
Uned 6 – Defnyddio damcaniaeth, ymchwil a sgiliau o fewn fframwaith cydlynol i ymarfer cwnsela yn annibynnol.
Uned 7 – Monitro a chynnal effeithiolrwydd proffesiynol fel cwnselydd sy'n ymarfer yn annibynnol.
Mae’r cwrs hwn wedi’i fapio o fewn cymhwyster CPCAB i gyd-fynd â gofynion cymhwysedd BACP ac OPT, ac o'i gyfuno â Diploma TCL4 mewn Cwnsela, neu gymhwyster cyfatebol, bydd yn helpu i baratoi am achrediad ymarferydd unigol gyda BACP fel Cwnselydd Achrededig.
Bydd dysgwyr hefyd yn cael cymryd rhan mewn gweithdai arbenigol a addysgir ar y cwrs Diploma Lefel 4.
Cyflwyno
Cyflwynir y cwrs drwy ddull cymysg, gyda chanran o'r gwersi'n cael eu cyflwyno o bell, gan baratoi myfyrwyr i ymarfer wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Asesu
Asesir yn fewnol ac yn allanol. Tiwtoriaid craidd fydd yn asesu a chyflwyno'r cwrs, gyda darlithwyr ychwanegol a siaradwyr gwadd yn rhannu gwybodaeth arbenigol.
Asesiad mewnol : Bydd disgwyl ichi lunio portffolio. Y tri dull asesu a ddefnyddir drwy gydol yr hyfforddiant yw – aseiniadau ac adolygiadau dysgu rheolaidd, Arsylwi gan Diwtor, a Thystiolaeth (gan oruchwyliwr, asiantaeth, cymheiriaid/tiwtor) i fodloni meini prawf y cwrs. Bydd disgwyl ichi hefyd gynnwys adolygiad beirniadol o drawsgrifiad 15 munud o hyd o waith clinigol.
Asesiad allanol : Bydd yn ofynnol ichi ysgrifennu adolygiad achos strwythuredig 3000-3500 o eiriau, a asesir yn allanol.
Lleoliad
Byddwch yn cwblhau o leiaf 60 awr o gwnsela un-i-un, drwy gontract ffurfiol fel ymarferydd, gan arfer ymreolaeth yn eich rôl fel cwnselydd ac yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros asesu. Gallai hyn olygu gweithio fel uwch ymarferydd mewn asiantaeth/sefydliad neu weithio fel ymarferydd preifat i sefydliad allanol, neu gwnselydd mewn practis preifat. Bydd yn rhaid ichi fod wedi trefnu Goruchwyliaeth ar gyfer ymarfer cwnsela - naill ai ar ffurf goruchwyliaeth grŵp neu un wrth un - er mwyn bodloni gofynion sylfaenol BACP.
Therapi Personol
Bydd angen i ymgeiswyr fod wedi cwblhau isafswm o 40 awr o gwnsela personol erbyn diwedd y cwrs. Gall hyn gynnwys oriau cwnsela cofnodedig a gwblhawyd cyn dechrau'r cwrs ond rhaid i 10 awr o therapi personol o leiaf fod wedi cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn hyfforddi ei hun.
Ffi Cwrs: £1,271.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Arholiad : £389.00
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi ennill y Diploma Lefel 4 CPCAB mewn Cwnsela Therapiwtig (TC-L4) neu gyfwerth. Rhaid i ymgeiswyr fod yn hyddysg yn eu defnydd o TG ac yn gallu cael mynediad at TG o bell ar gyfer y sesiynau ar-lein. Rhaid i ymgeiswyr gael man cyfrinachol i gymryd rhan mewn sesiynau ymarfer a dysgu ar-lein. Ar gyfer ymgeiswyr mewnol sy’n symud ymlaen o’n cwrs Lefel 4, mae angen argymhelliad ar ffurf geirda gan diwtor arnom. Ar gyfer ymgeiswyr sy’n newydd i CCAF mae angen cyfweliad, geirda gan eich goruchwyliwr cwnsela a/neu diwtor cwrs yn cynnwys sylwadau ar eich addasrwydd ar gyfer y lefel hon o hyfforddiant cwnsela.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i hyfforddiant pellach ym maes cwnsela a seicotherapi, a gweithio tuag at achrediad proffesiynol gyda Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) neu sefydliad proffesiynol moesegol arall.
Drwy symud ymlaen i'r Brifysgol Agored gellir symud y tu hwnt i Ddiploma Lefel 5 i astudio Gradd Sylfaen drwy raglen o fodiwlau. 120 credyd yn ofynnol ar gyfer Cam 1 gradd sylfaen y Brifysgol Agored yn sgil cwblhau Diploma Lefel 4 CPCAB mewn Cwnsela Therapiwtig a 30 credyd pellach o astudio ymhellach ar Lefel 5 CPCAB ynghyd â 90 credyd o astudio gyda'r Brifysgol Agored.
Gall dysgwyr llwyddiannus hefyd symud ymlaen i Dystysgrif Lefel 6 mewn Goruchwylio Cwnsela Therapiwtig, ar yr amod eu bod wedi cwblhau blwyddyn o leiaf o waith rhan-amser dan oruchwyliaeth gyda chleientiaid y dilyn L5 Cwnsela Seicotherapiwtig.