Mae’r cwrs Gwaith Coed hwn yn gwrs mynediad delfrydol i’ch cyflwyno chi i’r sector gwaith coed a saernïaeth a datblygu eich technegau llaw. Mae'r grefft hon yn addas ar gyfer unigolion sydd yn meddwl yn ymarferol, sydd â diddordeb mewn hyfforddi gyda thechnegau, deunyddiau a dulliau gwaith coed a ddefnyddir yn y diwydiant.
Byddwch yn dysgu yn ein gweithdai i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau. Mae hyn yn cynnwys hyfforddi gydag offer llaw, gan gynnwys llawlifiau, planau a chynion, ac offer pŵer symudol, fel driliau pŵer, llifiau pŵer, plaenwyr a llwybryddion a pheiriannau sandio. Wrth ichi ddatblygu eich hyder a’ch galluoedd gyda’r offer yma, byddwch yn marcio ac yn cynhyrchu cymalau a fframiau gwaith coed.
I gyflawni’r Diploma Lefel 1 mewn Gwaith Coed Sgiliau Adeiladu, rhaid i ddysgwyr gyflawni lleiafswm o 37 credyd o ystod o unedau a fydd yn cynnwys,
Rhaid i ymgeiswyr fod â thri TGAU A* - G gan gynnwys mewn Mathemateg a Saesneg. Mae angen i’r ymgeiswyr fynychu noson wybodaeth hefyd. PPE / Offer sydd ei angen i astudio: esgidiau diogelwch, dillad gwaith neu oferôls i newid ar gyfer sesiynau ymarferol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.